Y Salmau 2
2
SALM II
Quare fremuerunt.
Mae’r prophwyd Dafydd yn yr yspryd glan yn rhagweled gwrthwyneb mawr i eglwys Christ. Lle y mae efe yn newid personau yn yr ymadrodd, mae’r yspryd yn gryfach na rheswm dyn.
1Paham y terfysc gwyr y byd,
a pham y cyfyd rhodres?
Pam y mae’r bobloedd yn cyd-wau,
yn eu bwriadau diles?
2Codi y mae brenhinoedd byd,
a’u bryd yn gydgynghorol:
Yn erbyn Duw a’i Christ (ein plaid)
y mae pennaethiaid bydol.
3Drylliwn eu rhwymau, meddau hwy;
ni wnawn ni mwy ufydd-dod:
Ac ymaith taflwn eu trom iau,
ni chant yn frau mo’n gorfod.
4Ond Duw’r hwn sydd uwch wybrol len
a chwardd am ben eu geiriau:
Yr Arglwydd nef a wel eu bar,
efe a’i gwatwar hwythau.
5Yna y dywaid yn ei lid,
a hyn fydd rhy brid iddyn:
O’i eiriau ef y cyfyd braw,
a’i ddig a ddaw yn ddychryn.
6Gosodais innau (meddai ef)
â llaw gref yn dragywydd:
Fy Mrenin i, yn Llywydd llon,
ar sanctaidd Sion fynydd.
7Dyma’r ddeddf a ddwedai yn rhwydd,
hon gan yr Arglwydd clywais:
Ti yw fy mab (o’m perffaith ryw)
a heddyw i’th genhedlais.
8Gofyn ym, a mi yt’ a’i rhydd,
holl wledydd i’w ’tifeddu:
Y cenedlaethau dros y byd,
i gyd a gai meddiannu.
9Ti a’i briwi hwynt, yn dy farn,
â gwialen haiarn hayach:
Ti a’i maluri, hwythau ân,
mor fân a llestri priddach.
10Am hyn yn awr frenhinoedd coeth,
byddwch ddoeth a synhwyrol:
A chwithau farnwyr cymrwch ddysg,
i ostwng terfysg fydol.
11Gwasnaethwch chwi yr Arglwydd nef,
ac ofnwch ef drwy oglud:
A byddwch lawen yn Nuw cu,
etto drwy grynu hefyd.
12Cusenwch y Mab rhag ei ddig,
a’ch bwrw yn ffyrnig heibio:
A gwyn ei fyd pob calon lân,
a ymddiriedan yntho.
S'ha seleccionat:
Y Salmau 2: SC
Subratllat
Comparteix
Copia
Vols que els teus subratllats es desin a tots els teus dispositius? Registra't o inicia sessió
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017