Marc 2

2
2. IESU A'R HOLWYR
Iacháu Dyn wedi ei Barlysu (Marc 2:1-12)
1-12Pan ddaeth Iesu nôl i Gapernaum ymhen rhai dyddiau, aeth yr hanes ar led ei fod mewn tŷ gerllaw. Daeth cynifer o bobl yno fel nad oedd lle i neb fynd i mewn; (roedd Iesu'n sôn wrthyn nhw am y Newyddion Da). Daeth pedwar ato yn cario dyn wedi ei barlysu, ond oherwydd maint y dyrfa, roedden nhw'n methu â dod yn agos ato. Felly, aethon nhw ati i agor to'r tŷ yn union uwchben lle roedd Iesu. Wedi torri trwodd, gollyngon nhw'r claf i lawr ar ei fatras. Pan welodd Iesu eu ffydd nhw dwedodd wrth y claf, “Fy mab, maddeuwyd dy bechodau.” Roedd rhai o'r ysgrifenyddion yn eistedd yno yn meddwl am y pethau a welson ac a glywson nhw: “Pam mae hwn yn siarad fel hyn? Mae e'n cablu. Duw yn unig sy'n gallu maddau pechodau.” Deallodd Iesu eu meddyliau ar unwaith, a gofynnodd, “Pam ydych chi'n meddwl pethau fel hyn? Be sy hawsaf, ai dweud wrth y claf, ‘Maddeuwyd dy bechodau’, neu ddweud, ‘Cod, cymer dy fatras a cherdda’? Ond er mwyn i chi wybod fod gan Fab y Dyn hawl i faddau pechodau ar y ddaear,” — dwedodd wrth y claf — “rydw i'n dweud wrthyt ti, cod, cymer dy fatras a dos adref.” Cododd y dyn, cymerodd ei fatras, ac aeth oddi wrthyn nhw, gan adael pawb yn synnu a gogoneddu Duw a dweud, “Welson ni erioed y fath beth o'r blaen.”
Galw Lefi (Marc 2:13-17)
13-17Aeth Iesu allan eto i lan y môr, a daeth yr holl dyrfa ato, ac roedd yntau'n eu dysgu. Wrth fynd heibio gwelodd Lefi mab Alffeus yn eistedd wrth y dollfa, a dwedodd wrtho, “Dilyn fi.” Cododd hwnnw a dilynodd ef. Roedd hi bellach yn amser cinio, ac roedd llawer o gasglwyr trethi a phechaduriaid yn bwyta gyda Iesu a'i ddisgyblion, am fod cynifer ohonyn nhw ymhlith ei ddilynwyr. Pan welodd ysgrifenyddion y Phariseaid ei fod yn bwyta gyda'r pechaduriaid a'r casglwyr trethi, gofynnon nhw i'w ddisgyblion, “Pam mae e'n bwyta gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?” Clywodd Iesu hyn, a dwedodd, “Does dim angen meddyg ar bobl iach, y claf sy angen meddyg; dydw i ddim wedi dod i alw pobl gyfiawn, ond i alw pechaduriaid.”
Holi ynglŷn ag Ymprydio (Marc 2:18-22)
18-22Roedd disgyblion Ioan a'r Phariseaid yn ymprydio, a daeth rhai at Iesu a gofyn: “Pam fod disgyblion Ioan a disgyblion y Phariseaid yn ymprydio; dydy dy ddisgyblion di ddim?” Atebodd, “Ydy gwesteion priodas yn ymprydio tra bo'r priodfab gyda nhw? Tra ei fod e gyda nhw, dydyn nhw ddim yn gallu ymprydio. Ond daw amser pan gymerir y priodfab oddi arnyn nhw, bryd hynny byddan nhw'n ymprydio. Does neb yn gwnïo darn o frethyn newydd ar hen ddilledyn, achos byddai'r darn newydd yn ymestyn yr hen frethyn ac yn gwneud y twll yn fwy. A does neb yn rhoi gwin newydd mewn hen lestri, achos byddai'r gwin yn dryllio'r llestri ac yn dinistrio'r cyfan. Rhoddir gwin newydd mewn llestri newydd.”
Tynnu Tywysennau ar y Saboth (Marc 2:23-28)
23-28Un Saboth, pan oedd Iesu a'i ddisgyblion yn cerdded drwy'r caeau ŷd, dechreuodd rhai ohonyn nhw dynnu'r tywysennau. Gofynnodd y Phariseaid, “Pam mae dy ddisgyblion di'n torri'r Gyfraith ar y Saboth?” Atebodd Iesu, “Ydych chi erioed wedi darllen am beth wnaeth Dafydd, pan oedd ef a'i ddynion eisiau bwyd? Aeth i mewn i dŷ Dduw, yn ystod cyfnod yr archoffeiriad Abiathar, a bwyta'r torthau cysegredig nad oedd hawl gan neb eu bwyta ond yr offeiriaid; ac fe'u rhoddodd nhw hefyd i'w ddynion.” Dwedodd Iesu, “Mae'r Saboth wedi'i wneud er ein mwyn ni, ac nid ni er mwyn y Saboth. Yn yr un modd mae Mab y Dyn yn arglwydd ar y Saboth hefyd.”

S'ha seleccionat:

Marc 2: DAW

Subratllat

Comparteix

Copia

None

Vols que els teus subratllats es desin a tots els teus dispositius? Registra't o inicia sessió