Ioan 4
4
Yr Iesu a’r wraig o Samaria
1Pan ddeallodd yr Iesu fod y Phariseaid wedi clywed ei fod yn ennill a bedyddio mwy o ddilynwyr nag Ioan, 3fe adawodd Jwdea, a mynd yn ôl i Galilea. 2(Mewn gwirionedd doedd yr Iesu ei hun ddim yn bedyddio; ei ddisgyblion oedd yn gwneud hynny.) 4Golygai hyn fod rhaid iddo fynd drwy ganol Samaria. 5Fe ddaeth felly, i ddinas o’r enw Sichar, yn agos i’r darn tir roedd Jacob wedi’i roi i’w fab Joseff. 6Yno roedd ffynnon Jacob. A dyna lle’r oedd yr Iesu, wedi blino’n lân gan y daith, yn eistedd ar ymyl y ffynnon. Tua chanol dydd oedd hi.
7Daeth gwraig o Samaria i godi dŵr, ac medd yr Iesu wrthi, “Gaf i beth i’w yfed gennyt ti?” 8am fod ei ddisgyblion wedi mynd i’r dref i brynu bwyd. 9Ac meddai’r wraig o Samaria wrtho, “Beth! Wyt ti, Iddew o bawb, yn gofyn i mi, Samariad, am ddiod o ddŵr?”
(Dyw’r Iddewon, wyddoch, ddim yn ymgyfeillachu â’r Samariaid.)
10“Pe baet ti’n gwybod,” atebodd yr Iesu, “beth mae Duw yn ei gynnig, a phwy sy’n dweud wrthyt ti, ‘Gaf fi beth i’w yfed?’ fe fyddet wedi gofyn iddo ef, ac fe fyddai wedi rhoi dŵr bywiol i ti.”
11“Syr,” meddai’r wraig, “does gennyt ti ddim bwced ac mae’r ffynnon yn un ddofn. O ble cei di’r dŵr bywiol hwn, ynteu? 12Dwyt ti ddim yn meddwl dy fod ti’n fwy o ddyn na Jacob, wyt ti, ein tad ni, sydd wedi rhoi’r ffynnon hon i ni? Ac fe yfodd ohoni ei hun, yn ogystal â’i feibion a’i anifeiliaid.”
13Ac meddai’r Iesu, “Bydd pawb sy’n yfed o’r dŵr hwn yn sychedig eto, 14ond fydd y sawl fydd yn yfed y dŵr sydd gennyf fi i’w rannu, ddim yn sychedig eto, byth bythoedd. Bydd y dŵr sydd gennyf fi i’w rannu fel ffynnon o ddŵr ynddo, yn tarddu i’r bywyd nefol.”
15“Syr,” meddai’r wraig, “rho’r dŵr hwnnw i mi, yna fyddaf fi ddim yn sychedig, ac fe gaf fi arbed dod yr holl ffordd yma i mofyn dŵr.”
16“Dos adref,” meddai’r Iesu, “galw ar dy ŵr, a thyrd yn ôl yma.”
17“Does gennyf fi ddim gŵr,” oedd ateb y wraig.
“Rwyt ti’n iawn,” atebodd yr Iesu, “yn dweud nad oes gennyt ti ddim gŵr; 18rwyt ti wedi bod yn briod bum gwaith, ond dyw’r un sy’n byw gyda thi nawr ddim yn ŵr i ti. Do, fe ddywedaist ti’r gwir am hynny.”
19“Syr,” atebodd, “fe welaf i dy fod ti’n broffwyd. 20Fe addolai ein hynafiaid ni ar y mynydd hwn, ond rydych chi’r Iddewon yn dweud mai yn Jerwsalem y mae’r lle iawn i addoli.”
21“Cred di fi, wraig,” meddai’r Iesu, “fe ddaw amser na fyddwch chi ddim yn addoli’r Tad yn y mynydd hwn nac yn Jerwsalem chwaith. 22Rydych chi’r Samariaid yn addoli mewn anwybodaeth, ond fe wyddom ni beth rydym ni yn ei addoli, oherwydd mai oddi wrth yr Iddewon y daw gwaredigaeth. 23Ond fe ddaw amser — a dweud y gwir, mae wedi dod — pan fydd y rhai sy’n wir addolwyr yn addoli’r Tad mewn Ysbryd ac mewn gwirionedd. A dweud y gwir, am addolwyr felly mae Duw yn chwilio. 24Ysbryd yw Duw, a rhaid i’r sawl sydd yn ei addoli wneud hynny mewn Ysbryd ac mewn gwirionedd.” 25Fe atebodd y wraig, “Mi wn i’n iawn fod y Meseia, yr Eneiniog, yn dod. A phan ddaw, fe gawn ni wybod popeth ganddo.”
26“Fi yw hwnnw,” atebodd yr Iesu. “Fi, sy’n siarad â thi nawr.”
27A’r funud honno dyma’r disgyblion yn dychwelyd. Roedden nhw’n synnu gweld yr Iesu yn siarad â gwraig; ond ni ofynnodd yr un ohonyn nhw, “Beth sydd arnat ti ei eisiau?” neu “Pam wyt ti’n siarad â hon?” 28Fe adawodd y wraig ei hystên, ac i ffwrdd â hi i’r dref lle y dywedodd wrth y bobl, 29“Dewch i weld y dyn a ddywedodd wrthyf fi bopeth a wnes i erioed; tybed, ai hwn yw’r Meseia?”
30A dyma nhw’n gadael y dref ac yn dod ato.
Y Samariaid yn credu
31Yn y cyfamser, roedd y disgyblion yn ei gymell, “Athro, bwyta damaid.” 32Ond meddai ef wrthyn nhw, “Mae bwyd gennyf fi i’w fwyta na wyddoch chi ddim amdano.”
33Wedi clywed hyn, meddai’r disgyblion wrth ei gilydd, “A oes rhywun wedi dod â bwyd iddo, tybed?” 34Ac meddai’r Iesu, “Fy mwyd i yw gwneud ewyllys yr hwn a’m hanfonodd, a gorffen ei waith ef.
35“Fyddwch chi ddim yn dweud, ‘Pedwar mis eto, yna’r cynhaeaf?’ Ond rydw i’n dweud wrthych chi, Edrychwch yn fanwl ar y meysydd o’ch amgylch, maen nhw’n wyn ac aeddfed i’r cynhaeaf. 36Mae’r sawl sy’n medi eisoes yn derbyn ei dâl, ac yn hel cynhaeaf i fywyd y nefoedd, fel y gall y sawl sy’n hau a’r sawl sy’n medi ddathlu gyda’i gilydd. 37Mae’r ddihareb yn wir: ‘Mae un dyn yn hau, a’r llall yn medi.’ 38Fe’ch danfonais i chi i fedi cnwd nad oeddech wedi chwysu wrtho. Pobl eraill sydd wedi ymdrechu a chithau sy’n mwynhau ffrwyth eu hymdrech nhw.”
39Credodd llawer o Samariaid y ddinas honno oherwydd tystiolaeth y wraig: ‘Fe ddywedodd wrthyf bopeth a wnes i erioed.’ 40A phan ddaeth y Samariaid ato, dyma nhw’n ymbil arno aros gyda nhw: ac fe arhosodd am ddau ddiwrnod. 41Ac wrth ei glywed yn siarad fe ddaeth llawer mwy i gredu ac medden nhw wrth y wraig: 42“Nid oherwydd yr hyn a ddywedaist ti rydym ni yn credu yn awr — fe’i clywsom â’n clustiau ein hunain, ac rydym ni’n hollol siŵr mai hwn yw Gwaredwr y Byd.”
Yr Iesu’n iacháu mab y swyddog
43Ymhen y ddeuddydd fe aeth yr Iesu oddi yno i Galilea. 44Roedd ef ei hun yn cydnabod nad oes parch i broffwyd yn ei wlad ei hun. 45Pan gyrhaeddodd Galilea, er hynny, cafodd groeso brwd gan y Galileaid; roedden nhw wedi gweld popeth a wnaethai yn ystod yr Ŵyl yn Jerwsalem, gan eu bod hwythau yn yr Ŵyl.
46Unwaith eto fe ymwelodd â Chana yng Ngalilea lle roedd wedi troi’r dŵr yn win. Ac yno roedd swyddog brenhinol, a’i fab yn wael yng Nghapernaum. 47Pan glywodd hwn fod yr Iesu wedi dod o Jwdea i Galilea, aeth ato i erfyn arno fynd i lawr i wella’i fab — yn wir roedd ar fin marw. 48“Fedrwch chi ddim credu heb weld arwyddion a rhyfeddodau?” gofynnodd yr Iesu.
49Ymbiliodd y swyddog ag ef, “Syr, tyrd cyn i ’mhlentyn i farw.”
50Fe atebodd yr Iesu, “Dos adref, mae dy fab yn fyw ac yn iach.”
Fe gredodd y dyn air yr Iesu, a chychwynnodd adref. 51Pan oedd ar y ffordd, daeth ei weision i’w gyfarfod â’r newydd, “Mae dy fab yn fyw ac iach.”
52Holodd hwy pa amser roedd wedi troi i wella, ac medden nhw wrtho, “Ddoe, am un y pnawn y cafodd wared o’r dwymyn.” 53Ac fe sylweddolodd y tad mai dyma’r adeg y dywedodd yr Iesu wrtho, “Mae dy fab yn fyw ac yn iach,” a chredodd ef ei hun, yn ogystal â’i deulu, yn yr Iesu.
54Dyma’r ail arwydd felly a wnaeth yr Iesu ar ôl iddo ddod o Jwdea i Galilea.
S'ha seleccionat:
Ioan 4: FfN
Subratllat
Comparteix
Copia
Vols que els teus subratllats es desin a tots els teus dispositius? Registra't o inicia sessió
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971