Ioan 5
5
Yr Iesu yn iacháu wrth y llyn
1Yn ddiweddarach, aeth yr Iesu i fyny i Jerwsalem ar gyfer un o’r gwyliau Iddewig. 2Yn Jerwsalem wrth Borth y Defaid roedd pwll ac iddo bum rhes o golofnau. Fe’i gelwir yn iaith yr Iddewon yn Bethesda. 3Rhwng y colofnau hyn roedd llawer o gleifion yn arfer gorwedd, rhai dall, rhai cloff, a rhai a’u cymalau’n ddiffrwyth. 5Roedd rhyw ddyn yn gorwedd yno wedi dioddef ers deunaw ar hugain o flynyddoedd. 6A phan welodd yr Iesu ef yn gorwedd yno, ac yntau’n gwybod iddo fod felly am amser maith, meddai wrtho, “Fyddet ti’n hoffi dod yn iach eto?”
7Atebodd y claf, “Syr, does gennyf fi neb i’m helpu i fynd i’r dŵr ar ôl ei gynhyrfu — pan wyf yn llusgo tuag ato, mae rhywun arall wedi mynd i mewn o’m blaen.”
8Ac meddai’r Iesu wrtho, “Cod ar dy draed, cydia yn dy wely a cherdda.”
9Roedd y dyn wedi ei wella ar amrantiad; fe gododd ei wely a cherdded.
Digwyddodd hyn ar y Dydd Gorffwys. 10Felly fe ddywedodd yr Iddewon wrth y dyn a gafodd ei wella, “Dydd Gorffwys yw hi. Does gennyt ti ddim hawl i gario dy wely.”
11A dyma’r ateb iddyn nhw, “Y gŵr a’m gwnaeth yn iach a ddywedodd wrthyf fi, ‘Cod dy wely, a cherdda’.”
12Fe ofynson nhw iddo, “A phwy yw’r dyn a ddywedodd wrthyt ti am wneud hyn?”
13Doedd gan y dyn a gafodd ei wella ddim syniad pwy oedd ef, a chan fod yno dorf o bobl, ciliodd yr Iesu. 14Yn ddiweddarach dyma’r Iesu’n dod o hyd iddo yn y Deml, ac yn dweud wrtho, “Edrych, rwyt ti’n iach nawr, gad dy ffyrdd drygionus rhag i rywbeth gwaeth ddigwydd i ti.”
15Aeth y dyn ymaith a dywedodd wrth yr Iddewon mai’r Iesu oedd wedi ei wella.
16Am ei fod o hyd yn gwneud pethau o’r fath ar y Dydd Gorffwys, fe ddechreuodd yr Iddewon erlid yr Iesu. 17Amddiffynnodd yr Iesu ei hun drwy ddweud wrthyn nhw, “Mae fy Nhad yn dal i weithio — mae wrth ei orchwyl bob amser. Felly finnau.”
18Gwnaeth hyn yr Iddewon yn fwy penderfynol fyth i’w ladd; nid yn unig am ei fod yn torri eu Dydd Gorffwys, ond am iddo honni mai ei dad ef ei hun oedd Duw, a gwneud ei hun, felly, yn gydradd â Duw.
Awdurdod yr Iesu
19Ateb yr Iesu iddyn nhw oedd, “Credwch chi fi, ni all y Mab wneud dim ohono’i hun — dim ond gwneud yr hyn mae’n gweld y Tad yn ei wneud. Yr hyn a wna’r Tad, a wna’r Mab hefyd. 20Mae’r Tad yn caru’r Mab, felly mae’n dangos iddo beth a wna; yn wir mae ganddo bethau mwy i’w dangos iddo eto, ac fe gewch chi eich synnu. 21Fel mae’r Tad yn codi’r meirw ac yn rhoi bywyd iddyn nhw, felly hefyd mae’r Mab yn rhoi bywyd i bwy bynnag a fynno. 22Yn wir, dyw’r Tad ddim yn barnu neb; mae wedi gadael hyn i gyd i’r Mab, 23fel y caiff y Mab anrhydedd yn union fel ei Dad. Mae gwrthod rhoi anrhydedd i’r Mab yn golygu gwrthod rhoi anrhydedd i’r Tad sydd wedi ei anfon.
24“Yn wir i chi, pwy bynnag sy’n rhoi sylw manwl i’r hyn sydd gennyf fi i’w ddweud, ac yn ymddiried yn yr hwn sydd wedi ei anfon, mae gan hwnnw fywyd gyda mi a’r Tad. Ni chaiff ei farnu, yn wir mae wedi symud o fod yn farw i fod yn fyw yn barod. 25Credwch chi fi, fe ddaw amser, a dweud y gwir mae wedi dod, pan gaiff y rhai sy’n farw yn ysbrydol glywed llais Mab Duw, ac fe fydd y sawl a’i clyw yn gwybod beth yw cyfrinach byw mewn gwirionedd. 26Y Tad yw ffynhonnell pob gwir fywyd, a thrwy’r Tad mae’r Mab hefyd yn ffynhonnell bywyd.
27“Ac am ei fod yn Fab y Dyn cafodd ganddo yr hawl i farnu. 28Peidiwch â rhyfeddu am hyn, mae’r amser yn dod pan fydd pawb sy’n farw ac wedi’u claddu yn clywed ei lais, 29ac fe ddôn nhw allan o’u beddau, y rhai a wnaeth ddaioni i fywyd, rhai a wnaeth ddrygioni, i farn.
30“Fedra i wneud dim ar fy mhen fy hun; fel rwy’n clywed, felly rwy’n barnu, ac mae fy nyfarniad i’n gyfiawn — oherwydd does gennyf fi ddim uchelgais hunanol; bodloni yr hwn a’m hanfonodd i yw fy nymuniad.”
Tystion i’r Iesu
31Pe bawn i’n tystiolaethu ar fy rhan fy hun, fyddai dim gwerth yn hynny. 32Ond mae yna un arall sy’n tystio ar fy rhan, ac mi wn i’n iawn fod ei dystiolaeth ef amdanaf fi yn wir. 33Fe anfonsoch chi at Ioan, ac fe dystiolaethodd ef i’r gwir. 34Nid fy mod i’n dibynnu ar dystiolaeth ddynol; rwy’n dweud y pethau hyn i geisio’ch gwaredu chi. 35Roedd Ioan yn llusern, yn olau a disglair, ac roeddech chi yn barod i ymhyfrydu dros dro yn ei olau. 36Rydw i’n dibynnu ar dystiolaeth uwch nag un Ioan. Mae digon o dystiolaeth mai’r Tad sydd wedi f’anfon i yn y gweithredoedd a roddodd fy Nhad i mi i’w gwneud a’u gorffen — yr union weithredoedd rydw i wrthi yn eu gwneud. 37A hefyd mae’r Tad ei hun sydd wedi f’anfon yn siarad o’m plaid, er na chlywsoch chi ei lais na gweld ei wyneb. 38A dyw ei air ddim yn cael cartref gennych oherwydd dydych chi ddim yn credu’r sawl mae ef wedi’i anfon. 39Rydych yn astudio’r Ysgrythurau’n ddyfal, gan feddwl y cewch chi afael ar y bywyd aruchel ynddyn nhw. 40A’r rheiny’n union sy’n sôn amdanaf fi! Eto i gyd rydych yn gwrthod dod ataf fi er mwyn i chi gael y bywyd hwn!
41“Dyw cael fy nghanmol gan bobl yn cyfrif dim gennyf fi. 42Ond rwyf yn eich nabod chi; does gennych chi ddim cariad at Dduw ynoch. 43Rwyf wedi dod gydag awdurdod fy Nhad, ond dwyf fi ddim yn cael croeso gennych; ond os daw rhywun ar ei awdurdod ei hun, fe rowch groeso i hwnnw.
44“Sut medrwch chi gredu, a chithau’n cynffona i’ch gilydd am gymeradwyaeth, a heb falio dim am gymeradwyaeth oddi wrth yr unig Dduw? 45Peidiwch â meddwl, er hynny, y byddaf fi yn eich cyhuddo chi ger bron y Tad. Fe fydd Moses, yr union un yr ydych yn gobeithio cymaint ynddo, yn eich cyhuddo chi. 46Pe baech chi yn credu Moses, fe fyddech yn fy nghredu i, oherwydd amdanaf fi y sgrifennodd ef. 47Ond os na fedrwch chi gredu’r hyn a sgrifennodd ef, sut medrwch chi gredu fy ngeiriau i?”
S'ha seleccionat:
Ioan 5: FfN
Subratllat
Comparteix
Copia
Vols que els teus subratllats es desin a tots els teus dispositius? Registra't o inicia sessió
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971