Luk 16

16
PENNOD XVI.
Dammeg y goruchwyliwr anghyfiawn. Christ yn ceryddu rhagrith y Pharisai cybyddlyd. Y glwth goludog, a Lazarus y cardottyn.
1AC efe a ddywedodd hefyd wrth ei ddisgyblion, Yr oedd rhyw wr goludog yr hwn oedd ganddo oruchwyliwr; a hwn a gyhuddwyd wrtho, ei fod efe yn afradloni ei ddâ. 2Ac efe a’i galwodd, ac a ddywedodd wrtho, Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed am danat? dyro gyfrif o’th oruchwyliaeth: canys ni elli fod mwy yn oruchwyliwr. 3A’r goruchwyliwr a ddywedodd ynddo ei hun, Pa beth a wnaf? canys y mae fy arglwydd yn dwyn yr oruchwyliaeth oddi arnaf: cloddio ni’s gallaf, a chardotta sydd gywilyddus gennyf. 4Mi a wn beth a wnaf, fel, pan y’m bwrier allan o’r oruchwyliaeth, y derbyniont fi i’w tai. 5Ac wedi iddo alw atto bob un o ddyledwŷr ei arglwydd, efe a ddywedodd wrth y cyntaf, Pa faint sydd arnat ti o ddyled i’m harglwydd? 6Ac efe a ddywedodd, Can mesur o olew. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer yn ol dy ysgrifen, ac eistedd ar frys, ac ysgrifena ddeg a deugain. 7Yna y dywedodd wrth un arall, A pha faint o ddyled sydd arnat tithau? Ac efe a ddywedodd, Can mesur o wenith. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer yn ol dy ysgrifen, ac ysgrifena bedwar ugain. 8A’r arglwydd a ganmolodd y goruchwyliwr anghyfiawn, am iddo wneuthur yn gall: oblegyd y mae plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth nâ phlant y goleuni. 9Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Gwnewch i chwi gyfeillion o’r cyfoeth anghyfiawn: fel, pan fo eisiau arnoch, y’ch derbyniont i’r tragywyddol bebyll. 10Y neb sydd ffyddlon yn y lleiaf, sydd ffyddlon hefyd mewn llawer; a’r neb sydd anghyfiawn yn y lleiaf, sydd anghyfiawn hefyd mewn llawer. 11Am hynny, oni buoch ffyddlon yn y cyfoeth anghyfiawn, pwy a ymddiried i chwi am y gwir olud? 12Ac oni buoch ffyddlon yn yr eiddo arall, pwy a rydd i chwi yr eiddoch eich hun? 13Ni ddichon un gwas wasanaethu dau arglwydd: canys naill ai efe a gasâ y naill, ac a gâr y llall; ai efe a lŷn wrth y naill, ac a ddirmyga y llall: ni ellwch wasanaethu Duw a chyfoeth. 14A’r Pharisai hefyd, y rhai oedd arian-gar, a glywsant y pethau hyn oll, ac a’i gwatwarasant ef. 15Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi yw y rhai sydd yn eich cyfiawnhâu eich hunain ger bron dynion; eithr Duw a wŷr eich calonnau: canys y peth sydd uchel brîs gyd â dynion, sydd ffiaidd ger bron Duw. 16Y gyfraith a’r prophwydi oedd hyd Ioan: er y pryd hwnnw y pregethir breniniaeth Duw, a phob dyn sydd yn ymwthio iddi. 17A haws yw i nef a daear fyned heibio, nag i un llinell o’r gyfraith ballu. 18Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, y mae efe yn godinebu; a phwy bynnag a briodo yr hon a ollyngwyd ymaith oddi wrth ei gwr, y mae yntau yn godinebu. 19Yr oedd rhyw wr goludog, ac a wisgid â phorphor a lliain main, ac yr oedd yn gwledda yn gostfawr beunydd: 20Yr oedd hefyd ryw gardottyn, a’i enw Lazarus, yr hwn a fwrid wrth ei borth ef yn gornwydlyd, 21Ac yn deisyf cael ei borthi ar briwsion a syrthiai oddi ar fwrdd y gwr cyfoethog; ond y cŵn a ddaethant, ïe, ac a lyfasant ei gornwydydd ef. 22A bu, i’r cardottyn farw, a’i ddwyn gan yr angylion i fynwes Abraham. A’r goludog hefyd a fu farw, ac a gladdwyd: 23Ac yn y cysgod efe a gododd ei olwg, mewn poenau, ac a ganfu Abraham o hirbell, a Lazarus yn ei fynwes. 24Ac efe a lefodd, ac a ddywedodd, O dad Abraham, trugarhâ wrthyf, a danfon Lazarus, i drochi pen ei fys mewn dwfr, ac i oeri fy nhafod: canys fe a’m poenir yn y fflam hon. 25Ac Abraham a ddywedodd, Ha fab, cofia i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, a Lazarus ei adfyd; ac yn awr y diddenir ef, ac y poenir dithau. 26Ac heb law hyn oll, rhyngom ni a chwithau y sicrhawyd gagendor mawr: fel na allo y rhai a fynnent, dramwy oddi yma attoch chwi; na’r rhai oddi yna, dramwy attom ni. 27Ac efe a ddywedodd, Yr wyf yn attolwg i ti gan hynny, O dad, ddanfon o honot ef i dŷ fy nhad: 28Canys y mae i mi bump o frodyr: fel y tystiolaetho iddynt hwy, rhag dyfod o honynt hwythau hefyd i’r lle poenus hwn. 29Abraham a ddywedodd wrtho, Y mae ganddynt Moses a’r prophwydi; gwrandawant arnynt hwy. 30Yntau a ddywedodd, Nag ê, y tad Abraham: eithr os â un oddi wrth y meirw attynt, hwy a edifarhânt. 31Yna Abraham a ddywedodd wrtho, Oni wrandawant ar Moses eu cynghori a’r prophwydi, ni chredant pe codai un oddi wrth y meirw.

S'ha seleccionat:

Luk 16: JJCN

Subratllat

Comparteix

Copia

None

Vols que els teus subratllats es desin a tots els teus dispositius? Registra't o inicia sessió