Logo de l'Aplicació de la Bíblia
Icona de cerca

Salm 150

150
Molwch yr ARGLWYDD!
1Haleliwia!
Molwch Dduw yn ei deml.
Molwch e yn ei nefoedd gadarn.
2Molwch e am wneud pethau mor fawr.
Molwch e am ei fod mor wych.
3Molwch e drwy chwythu’r corn hwrdd.#150:3 corn hwrdd Hebraeg, shoffar.
Molwch e gyda’r nabl a’r delyn.
4Molwch e gyda drwm a dawns.
Molwch e gyda llinynnau a ffliwt.
5Molwch e gyda sŵn symbalau.
Molwch e gyda symbalau’n atseinio.
6Boed i bopeth sy’n anadlu foli’r ARGLWYDD.
Haleliwia!

S'ha seleccionat:

Salm 150: bnet

Subratllat

Copia

Compara

Comparteix

None

Vols que els teus subratllats es desin a tots els teus dispositius? Registra't o inicia sessió