Logo de l'Aplicació de la Bíblia
Icona de cerca

Salm 64

64
Gweddi ar i Dduw amddiffyn
I’r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.
1Gwranda arna i, O Dduw, wrth i mi swnian.
Amddiffyn fi rhag y gelynion sy’n ymosod.
2Cuddia fi oddi wrth y mob o ddynion drwg,
y gang sydd ddim ond am godi twrw.
3Maen nhw’n hogi eu tafodau fel cleddyfau,
ac yn anelu eu geiriau creulon fel saethau.
4Maen nhw’n cuddio er mwyn saethu’r dieuog –
ei saethu’n ddirybudd. Dŷn nhw’n ofni dim.
5Maen nhw’n annog ei gilydd i wneud drwg,
ac yn siarad am osod trapiau,
gan feddwl, “Does neb yn ein gweld.”
6Maen nhw’n cynllwynio gyda’i gilydd,
“Y cynllun perffaith!” medden nhw.
(Mae’r galon a’r meddwl dynol mor ddwfn!)
7Ond bydd Duw yn eu taro nhw gyda’i saeth e;
yn sydyn byddan nhw wedi syrthio.
8Bydd eu geiriau’n arwain at eu cwymp,
a bydd pawb fydd yn eu gweld yn ysgwyd eu pennau’n syn.
9Bydd pawb yn sefyll yn syfrdan!
Byddan nhw’n siarad am beth wnaeth Duw,
ac yn dechrau deall sut mae e’n gweithredu.
10Bydd y rhai sy’n byw’n gywir yn gorfoleddu yn yr ARGLWYDD,
ac yn dod o hyd i le saff ynddo fe.
Bydd pawb sy’n gwneud beth sy’n iawn yn dathlu.

S'ha seleccionat:

Salm 64: bnet

Subratllat

Copia

Compara

Comparteix

None

Vols que els teus subratllats es desin a tots els teus dispositius? Registra't o inicia sessió