Salm 26
26
Gweddi person gonest
Salm Dafydd.
1Achub fy ngham, O ARGLWYDD,
dw i wedi bod yn onest.
Dw i wedi dy drystio di, ARGLWYDD,
bob amser.
2Archwilia fi, ARGLWYDD; gosod fi ar brawf!
Treiddia i’m meddwl a’m cydwybod.
3Dw i’n gwybod mor ffyddlon wyt ti –
a dyna sydd yn fy ysgogi i fynd ymlaen.
4Dw i ddim yn derbyn cyngor gan bobl sy’n twyllo,
nac yn cymysgu gyda rhai sy’n anonest.
5Dw i’n casáu cwmni dynion drwg,
ac yn gwrthod cyngor pobl felly.
6Dw i’n golchi fy nwylo’n lân,
ac am gerdded o gwmpas dy allor, O ARGLWYDD.
7Dw i eisiau diolch i ti,
a dweud am y pethau rhyfeddol wnest ti.
8O ARGLWYDD, dw i’n caru’r deml lle rwyt ti’n byw;
y fan lle mae dy ysblander i’w weld.
9Paid ysgubo fi i ffwrdd gyda phechaduriaid,
na’m lladd gyda’r bobl dreisgar
10sydd bob amser yn cynllwynio rhyw ddrwg,
neu’n barod i gynnig breib.
11Dw i wedi bod yn onest.
Gollwng fi’n rhydd! Bydd yn garedig ata i!
12Dw i’n gwybod fy mod i’n saff.
Bydda i’n addoli’r ARGLWYDD eto gyda’i bobl.
دیاریکراوەکانی ئێستا:
Salm 26: bnet
بەرچاوکردن
لەبەرگرتنەوە
بەراوردکردن
هاوبەشی بکە
دەتەوێت هایلایتەکانت بپارێزرێت لەناو ئامێرەکانتدا> ? داخڵ ببە
© Cymdeithas y Beibl 2023