1
Marc 5:34
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004
Dywedodd yntau wrthi hi, “Ferch, y mae dy ffydd wedi dy iacháu di. Dos mewn tangnefedd, a bydd iach o'th glwyf.”
Porovnat
Zkoumat Marc 5:34
2
Marc 5:25-26
Ac yr oedd yno wraig ac arni waedlif ers deuddeng mlynedd. Yr oedd wedi dioddef yn enbyd dan driniaeth llawer o feddygon, ac wedi gwario'r cwbl oedd ganddi, a heb gael dim lles ond yn hytrach mynd yn waeth.
Zkoumat Marc 5:25-26
3
Marc 5:29
A sychodd llif ei gwaed hi yn y fan, a daeth hithau i wybod yn ei chorff ei bod wedi ei hiacháu o'i chlwyf.
Zkoumat Marc 5:29
4
Marc 5:41
Ac wedi gafael yn llaw'r plentyn dyma fe'n dweud wrthi, “Talitha cŵm,” sy'n golygu, “Fy ngeneth, rwy'n dweud wrthyt, cod.”
Zkoumat Marc 5:41
5
Marc 5:35-36
Tra oedd ef yn llefaru, daeth rhywrai o dŷ arweinydd y synagog a dweud, “Y mae dy ferch wedi marw; pam yr wyt yn poeni'r Athro bellach?” Ond anwybyddodd Iesu y neges, a dywedodd wrth arweinydd y synagog, “Paid ag ofni, dim ond credu.”
Zkoumat Marc 5:35-36
6
Marc 5:8-9
Oherwydd yr oedd Iesu wedi dweud wrtho, “Dos allan, ysbryd aflan, o'r dyn.” A gofynnodd iddo, “Beth yw dy enw?” Meddai yntau wrtho, “Lleng yw fy enw, oherwydd y mae llawer ohonom.”
Zkoumat Marc 5:8-9
Domů
Bible
Plány
Videa