Marc 5
5
Iacháu'r Dyn oedd ym meddiant Cythreuliaid yn Gerasa
Mth. 8:28–34; Lc. 8:26–39
1Daethant i'r ochr draw i'r môr i wlad y Geraseniaid#5:1 Yn ôl darlleniadau eraill, Gadareniaid, neu, Gergeseniaid.. 2A phan ddaeth allan o'r cwch, ar unwaith daeth i'w gyfarfod o blith y beddau ddyn ag ysbryd aflan ynddo. 3Yr oedd hwn yn cartrefu ymhlith y beddau, ac ni allai neb mwyach ei rwymo hyd yn oed â chadwyn, 4oherwydd yr oedd wedi cael ei rwymo'n fynych â llyffetheiriau ac â chadwynau, ond yr oedd y cadwynau wedi eu rhwygo ganddo a'r llyffetheiriau wedi eu dryllio; ac ni fedrai neb ei ddofi. 5Ac yn wastad, nos a dydd, ymhlith y beddau ac ar y mynyddoedd, byddai'n gweiddi ac yn ei anafu ei hun â cherrig. 6A phan welodd Iesu o bell, rhedodd a syrthio ar ei liniau o'i flaen, 7a gwaeddodd â llais uchel, “Beth sydd a fynni di â mi, Iesu, Mab y Duw Goruchaf? Yn enw Duw, paid â'm poenydio.” 8Oherwydd yr oedd Iesu wedi dweud wrtho, “Dos allan, ysbryd aflan, o'r dyn.” 9A gofynnodd iddo, “Beth yw dy enw?” Meddai yntau wrtho, “Lleng yw fy enw, oherwydd y mae llawer ohonom.” 10Ac yr oedd yn ymbil yn daer arno beidio â'u gyrru allan o'r wlad.
11Yr oedd yno ar lethr y mynydd genfaint fawr o foch yn pori. 12Ac ymbiliodd yr ysbrydion aflan arno, “Anfon ni i'r moch; gad i ni fynd i mewn iddynt hwy.” 13Ac fe ganiataodd iddynt. Aeth yr ysbrydion aflan allan o'r dyn ac i mewn i'r moch; a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r môr, tua dwy fil ohonynt, a boddi yn y môr. 14Ffodd bugeiliaid y moch ac adrodd yr hanes yn y dref ac yn y wlad, a daeth y bobl i weld beth oedd wedi digwydd. 15Daethant at Iesu a gweld y dyn, hwnnw yr oedd y lleng cythreuliaid wedi bod ynddo, yn eistedd â'i ddillad amdano ac yn ei iawn bwyll; a daeth arnynt ofn. 16Adroddwyd wrthynt gan y rhai oedd wedi gweld beth oedd wedi digwydd i'r dyn ym meddiant cythreuliaid, a'r hanes am y moch hefyd. 17A dechreusant erfyn arno fynd ymaith o'u gororau. 18Ac wrth iddo fynd i mewn i'r cwch, yr oedd y dyn a oedd wedi bod ym meddiant y cythreuliaid yn erfyn arno am gael bod gydag ef. 19Ni adawodd iddo, ond meddai wrtho, “Dos adref at dy bobl dy hun a mynega iddynt gymaint y mae'r Arglwydd wedi ei wneud drosot, a'r modd y tosturiodd wrthyt.” 20Aeth yntau ymaith a dechrau cyhoeddi yn y Decapolis gymaint yr oedd Iesu wedi ei wneud drosto; ac yr oedd pawb yn rhyfeddu.
Merch Jairus, a'r Wraig a Gyffyrddodd â Mantell Iesu
Mth. 9:18–26; Lc. 8:40–56
21Wedi i Iesu groesi'n ôl yn y cwch#5:21 Yn ôl darlleniad arall gadewir allan yn y cwch. i'r ochr arall, daeth tyrfa fawr ynghyd ato, ac yr oedd ar lan y môr. 22Daeth un o arweinwyr y synagog, o'r enw Jairus, a phan welodd ef syrthiodd wrth ei draed 23ac ymbil yn daer arno: “Y mae fy merch fach,” meddai, “ar fin marw. Tyrd a rho dy ddwylo arni, iddi gael ei gwella a byw.” 24Ac aeth Iesu ymaith gydag ef.
Yr oedd tyrfa fawr yn ei ganlyn ac yn gwasgu arno. 25Ac yr oedd yno wraig ac arni waedlif ers deuddeng mlynedd. 26Yr oedd wedi dioddef yn enbyd dan driniaeth llawer o feddygon, ac wedi gwario'r cwbl oedd ganddi, a heb gael dim lles ond yn hytrach mynd yn waeth. 27Yr oedd hon wedi clywed am Iesu, a daeth o'r tu ôl iddo yn y dyrfa a chyffwrdd â'i fantell, 28oherwydd yr oedd hi wedi dweud, “Os cyffyrddaf hyd yn oed â'i ddillad ef, fe gaf fy iacháu.” 29A sychodd llif ei gwaed hi yn y fan, a daeth hithau i wybod yn ei chorff ei bod wedi ei hiacháu o'i chlwyf. 30Ac ar unwaith deallodd Iesu ynddo'i hun fod y nerth oedd yn tarddu ynddo wedi mynd allan, a throes yng nghanol y dyrfa, a gofyn, “Pwy gyffyrddodd â'm dillad?” 31Meddai ei ddisgyblion wrtho, “Yr wyt yn gweld y dyrfa'n gwasgu arnat ac eto'n gofyn, ‘Pwy gyffyrddodd â mi?’ ” 32Ond daliodd ef i edrych o'i gwmpas i weld yr un oedd wedi gwneud hyn. 33Daeth y wraig, dan grynu yn ei braw, yn gwybod beth oedd wedi digwydd iddi, a syrthiodd o'i flaen ef a dweud wrtho'r holl wir. 34Dywedodd yntau wrthi hi, “Ferch, y mae dy ffydd wedi dy iacháu di. Dos mewn tangnefedd, a bydd iach o'th glwyf.”
35Tra oedd ef yn llefaru, daeth rhywrai o dŷ arweinydd y synagog a dweud, “Y mae dy ferch wedi marw; pam yr wyt yn poeni'r Athro bellach?” 36Ond anwybyddodd Iesu y neges, a dywedodd wrth arweinydd y synagog, “Paid ag ofni, dim ond credu.” 37Ac ni adawodd i neb ganlyn gydag ef ond Pedr ac Iago ac Ioan, brawd Iago. 38Daethant i dŷ arweinydd y synagog, a gwelodd gynnwrf, a phobl yn wylo ac yn dolefain yn uchel. 39Ac wedi mynd i mewn dywedodd wrthynt, “Pam yr ydych yn llawn cynnwrf ac yn wylo? Nid yw'r plentyn wedi marw, cysgu y mae.” 40Dechreusant chwerthin am ei ben. Gyrrodd yntau bawb allan, a chymryd tad y plentyn a'i mam a'r rhai oedd gydag ef, a mynd i mewn lle'r oedd y plentyn. 41Ac wedi gafael yn llaw'r plentyn dyma fe'n dweud wrthi, “Talitha cŵm,” sy'n golygu, “Fy ngeneth, rwy'n dweud wrthyt, cod.” 42Cododd yr eneth ar unwaith a dechrau cerdded, oherwydd yr oedd yn ddeuddeng mlwydd oed. A thrawyd hwy yn y fan â syndod mawr. 43A rhoddodd ef orchymyn pendant iddynt nad oedd neb i gael gwybod hyn, a dywedodd am roi iddi rywbeth i'w fwyta.
Právě zvoleno:
Marc 5: BCND
Zvýraznění
Sdílet
Kopírovat
Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004