Marc 12
12
Dameg y Winllan a'r Tenantiaid
Mth. 21:33–46; Lc. 20:9–19
1Dechreuodd lefaru wrthynt ar ddamhegion. “Fe blannodd rhywun winllan, a chododd glawdd o'i hamgylch, a chloddio cafn i'r gwinwryf, ac adeiladu tŵr. Gosododd hi i denantiaid, ac aeth oddi cartref. 2Pan ddaeth yn amser, anfonodd was at y tenantiaid i dderbyn ganddynt gyfran o ffrwyth y winllan. 3Daliasant hwythau ef, a'i guro, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw. 4Anfonodd drachefn was arall atynt; trawsant hwnnw ar ei ben a'i amharchu. 5Ac anfonodd un arall; lladdasant hwnnw. A llawer eraill yr un fath: curo rhai a lladd y lleill. 6Yr oedd ganddo un eto, mab annwyl; anfonodd ef atynt yn olaf, gan ddweud, ‘Fe barchant fy mab.’ 7Ond dywedodd y tenantiaid hynny wrth ei gilydd, ‘Hwn yw'r etifedd; dewch, lladdwn ef, a bydd yr etifeddiaeth yn eiddo i ni.’ 8A chymerasant ef, a'i ladd, a'i fwrw allan o'r winllan. 9Beth ynteu a wna perchen y winllan? Fe ddaw ac fe ddifetha'r tenantiaid, ac fe rydd y winllan i eraill. 10Onid ydych wedi darllen yr Ysgrythur hon:
“ ‘Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,
hwn a ddaeth yn faen y gongl;
11gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn,
ac y mae'n rhyfeddol yn ein golwg ni’?”
12Ceisiasant ei ddal ef, ond yr oedd arnynt ofn y dyrfa, oherwydd gwyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedodd y ddameg. A gadawsant ef a mynd ymaith.
Talu Trethi i Gesar
Mth. 22:15–22; Lc. 20:20–26
13Anfonwyd ato rai o'r Phariseaid ac o'r Herodianiaid i'w faglu ar air. 14Daethant, ac meddent wrtho, “Athro, gwyddom dy fod yn ddiffuant, ac na waeth gennyt am neb; yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb, ac yn dysgu ffordd Duw yn gwbl ddiffuant. A yw'n gyfreithlon talu treth i Gesar, ai nid yw? A ydym i dalu, neu beidio â thalu?” 15Deallodd yntau eu rhagrith, ac meddai wrthynt, “Pam yr ydych yn rhoi prawf arnaf? Dewch â darn arian#12:15 Gw. nodyn ar Mth. 18:28. yma, imi gael golwg arno.” 16A daethant ag un, ac meddai ef wrthynt, “Llun ac arysgrif pwy sydd yma?” Dywedasant hwythau wrtho, “Cesar.” 17A dywedodd Iesu wrthynt, “Talwch bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.” Ac yr oeddent yn rhyfeddu ato.
Holi ynglŷn â'r Atgyfodiad
Mth. 22:23–33; Lc. 20:27–40
18Daeth ato Sadwceaid, y bobl sy'n dweud nad oes dim atgyfodiad, a dechreusant ei holi. 19“Athro,” meddent, “ysgrifennodd Moses ar ein cyfer, ‘Os bydd rhywun farw, a gadael gwraig, ond heb adael plentyn, y mae ei frawd i gymryd y wraig ac i godi plant i'w frawd.’ 20Yr oedd saith o frodyr. Cymerodd y cyntaf wraig, a phan fu ef farw ni adawodd blant. 21A chymerodd yr ail hi, a bu farw heb adael plant; a'r trydydd yr un modd. 22Ac ni adawodd yr un o'r saith blant. Yn olaf oll bu farw'r wraig hithau. 23Yn yr atgyfodiad, pan atgyfodant, gwraig p'run ohonynt fydd hi? Oherwydd cafodd y saith hi'n wraig.” 24Meddai Iesu wrthynt, “Onid dyma achos eich cyfeiliorni, eich bod heb ddeall na'r Ysgrythurau na gallu Duw? 25Oherwydd pan atgyfodant oddi wrth y meirw, ni phriodant ac ni phriodir hwy; y maent fel angylion yn y nefoedd. 26Ond ynglŷn â bod y meirw yn codi, onid ydych wedi darllen yn llyfr Moses, yn hanes y Berth, sut y dywedodd Duw wrtho, ‘Myfi, Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob ydwyf’? 27Nid Duw'r meirw yw ef, ond y rhai byw. Yr ydych ymhell ar gyfeiliorn.”
Y Gorchymyn Mawr
Mth. 22:34–40; Lc. 10:25–28
28Daeth un o'r ysgrifenyddion ato, wedi eu clywed yn dadlau, ac yn gweld ei fod wedi eu hateb yn dda, a gofynnodd iddo, “P'run yw'r gorchymyn cyntaf o'r cwbl?” 29Atebodd Iesu, “Y cyntaf yw, ‘Gwrando, O Israel, yr Arglwydd ein Duw yw'r unig Arglwydd, 30a châr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl feddwl ac â'th holl nerth.’ 31Yr ail yw hwn, ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’ Nid oes gorchymyn arall mwy na'r rhain.” 32Dywedodd yr ysgrifennydd wrtho, “Da y dywedaist, Athro; gwir mai un ydyw ac nad oes Duw arall ond ef. 33Ac y mae ei garu ef â'r holl galon ac â'r holl ddeall ac â'r holl nerth, a charu dy gymydog fel ti dy hun, yn rhagorach na'r holl boethoffrymau a'r aberthau.” 34A phan welodd Iesu ei fod wedi ateb yn feddylgar, dywedodd wrtho, “Nid wyt ymhell oddi wrth deyrnas Dduw.” Ac ni feiddiai neb ei holi ddim mwy.
Holi ynglŷn â Mab Dafydd
Mth. 22:41–46; Lc. 20:41–44
35Wrth ddysgu yn y deml dywedodd Iesu, “Sut y mae'r ysgrifenyddion yn gallu dweud bod y Meseia yn Fab Dafydd? 36Dywedodd Dafydd ei hun, trwy'r Ysbryd Glân:
“ ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i,
“Eistedd ar fy neheulaw
nes imi osod dy elynion dan dy draed.” ’
37“Y mae Dafydd ei hun yn ei alw'n Arglwydd; sut felly y mae'n fab iddo?” Yr oedd y dyrfa fawr yn gwrando arno'n llawen.
Cyhuddo'r Ysgrifenyddion
Mth. 23:1–36; Lc. 20:45–47
38Ac wrth eu dysgu, meddai, “Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion sy'n hoffi rhodianna mewn gwisgoedd llaes, a chael cyfarchiadau yn y marchnadoedd, 39a'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r seddau anrhydedd mewn gwleddoedd. 40Dyma'r rhai sy'n difa cartrefi gwragedd gweddwon, ac mewn rhagrith yn gweddïo'n faith; fe dderbyn y rhain drymach dedfryd.”
Offrwm y Weddw
Lc. 21:1–4
41Eisteddodd i lawr gyferbyn â chist y drysorfa, ac yr oedd yn sylwi ar y modd yr oedd y dyrfa yn rhoi arian i mewn yn y gist. Yr oedd llawer o bobl gyfoethog yn rhoi yn helaeth. 42A daeth gweddw dlawd a rhoi dau ddarn bychan o bres, gwerth chwarter ceiniog. 43Galwodd ei ddisgyblion ato a dywedodd wrthynt, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych fod y weddw dlawd hon wedi rhoi mwy na phawb arall sy'n rhoi i'r drysorfa. 44Oherwydd rhoi a wnaethant hwy i gyd o'r mwy na digon sydd ganddynt, ond rhoddodd hon o'i phrinder y cwbl oedd ganddi i fyw arno.”
Právě zvoleno:
Marc 12: BCND
Zvýraznění
Sdílet
Kopírovat
Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004