Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Effesiaid 3:20

Pam fod Duw yn fy ngharu?
5 Diwrnod
Cwestiynau - mae rhain yn codi bob amser yng nghyswllt Duw. Wrth ystyried y gymdeithas sydd yn dwyn cymhariaeth drwy'r adeg dŷn ni’n cael ein hunain yn gofyn, "Pam mae Duw yn fy ngharu?" Neu hyd yn oed, "Sut all Duw fy ngharu?"Yn ystod y cynllun hwn byddi'n dod wyneb yn wyneb â'r hyn sydd gan 26 o ddarnau o'r Beibl i'w ddweud am gariad diamod Duw tuag atat.

Torri'n rhydd o Gymhariaeth: Defosiwn 7 niwrnod gan Anna Light
7 Diwrnod
Rwyt yn gwybod fod Duw'n cynnig bywyd mwy cyflawn na'r un rwyt yn ei fyw, ond y gwir amdani yw, mae cymhariaeth yn dy ddal nôl rhag mynd i'r lefel nesaf. Yn y cynllun darllen hwn mae Anna Light yn dadorchuddio mewnwelediadau fydd yn chwalu'r caead sy'n cuddio dy alluoedd, a'th helpu i fyw y bywyd cyflawn mae Duw wedi'i gynllunio ar dy gyfer

Beth yw Cariad go iawn?
12 Diwrnod
Mae pawb eisiau gwybod beth yw cariad go iawn. Ond ychydig iawn o bobl sy'n edrych ar beth mae'r Beibl yn ei ddweud am gariad. Cariad yw un o themâu canolig y Gair a rhinwedd pwysicaf y bywyd Cristnogol. Mae'r cynllun hwn gan Thistlebend Ministries yn chwilio am ystyr Beiblaidd cariad a sut i garu Duw ac eraill yn well.
