Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Rhufeiniaid 5:5

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial
7 Diwrnod
Efallai nad ydyn ni bob amser yn ei weld na'i deimlo, ond mae Duw bob amser gyda ni... hyd yn oed pan fyddwn yn mynd trwy bethau anodd. Yn y cynllun hwn, mae Amy LaRue, Cydlynydd Finding Hope, yn sgwennu o'r galon am frwydr ei theulu ei hun â chaethiwed a sut y torrodd llawenydd Duw drwodd yn eu cyfnod tywyllaf.

Beth yw Cariad go iawn?
12 Diwrnod
Mae pawb eisiau gwybod beth yw cariad go iawn. Ond ychydig iawn o bobl sy'n edrych ar beth mae'r Beibl yn ei ddweud am gariad. Cariad yw un o themâu canolig y Gair a rhinwedd pwysicaf y bywyd Cristnogol. Mae'r cynllun hwn gan Thistlebend Ministries yn chwilio am ystyr Beiblaidd cariad a sut i garu Duw ac eraill yn well.

Ffydd
12 Diwrnod
Ydy gweld yn golygu credu? Neu ydy credu yn golygu gweld? Cwestiynau o ffydd yw rhain. Mae'r cynllun hwn yn cynnig astudiaeth ddwfn a manwl o ffydd - o bobol go iawn yn yr Hen Destament ddangosodd hyder a ffydd mewn sefyllfaoedd heriol hyd at ddysgeidiaeth Iesu ar y pwnc. Drwy'r darlleniadau byddi'n cael dy annog i ddyfnhau dy berthynas â Duw ac i ddilyn Iesu yn fwy ffyddlon.