1
Salmau 102:1-3
Salmau Cân Newydd 2008 (Gwynn ap Gwilym)
O Arglwydd, clyw fy ngweddi; doed Fy llef hyd atat ti. Na chudd dy wyneb rhagof; boed It glywed ing fy nghri. Dyro im ateb yn ddi-oed, Cans darfod yr wyf fi, A’m holl gorff yn llosgi megis ffwrn.
Cymharu
Archwiliwch Salmau 102:1-3
2
3
Salmau 102:12-15
Arglwydd, am byth gorseddwyd di; Fe godi i drugarhau; Canys fe ddaeth yr amser i Dosturio wrth Seion frau. Hoff gan dy weision ei llwch hi. Pan ddeui i’w chryfhau Bydd cenhedloedd byd yn crynu o’th flaen.
Archwiliwch Salmau 102:12-15
4
Salmau 102:16-18
Fe adeilada’r Arglwydd Dduw Ei Seion, a daw dydd Y gwelir eto’i fawredd; clyw Gri’r gorthrymedig prudd. Hyn oll, ysgrifenedig yw I genedlaethau a fydd. Genir eto bobl i’w foli ef.
Archwiliwch Salmau 102:16-18
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos