1
Salmau 118:22-24
Salmau Cân Newydd 2008 (Gwynn ap Gwilym)
Mae’r garreg y gwrthodwyd hi Gan y penseiri i gyd Yn bennaf conglfaen y tŷ, A ninnau’n synnu’n fud. Hwn ydyw dydd d’amlygu di Yn Arglwydd yr holl fyd; Gorfoleddwn ynddo a llawenhawn.
Cymharu
Archwiliwch Salmau 118:22-24
2
Salmau 118:5-8
Gwaeddais mewn ing, ac yna daeth Yr Arglwydd i’m rhyddhau. A Duw o’m tu, nid ofnaf waeth: Pa ddyn all fy llesgáu? A Duw o’m plaid, caf weld yn gaeth Y rhai sy’n fy nghasáu. Gwell rhoi ffydd yn Nuw nag yn nerth dyn.
Archwiliwch Salmau 118:5-8
3
4
5
Salmau 118:27b-29
Ymunwch â’r orymdaith fawr At gyrn yr allor wiw. Ti yw fy Nuw; diolchaf nawr; Dyrchafaf di, fy Nuw. Diolchwch bawb i’r Arglwydd mawr, Cans Duw daionus yw; Mae’i ffyddlondeb ef yn para byth.
Archwiliwch Salmau 118:27b-29
6
Salmau 118:1-4
Diolchwch bawb i’r Arglwydd mawr, Cans ffyddlon yw o hyd. Uned tŷ Aaron oll yn awr, Ac Israel oll i gyd, A phawb o’r rhai dros ddaear lawr A’i hofna, i ddweud ynghyd: “Mae’i ffyddlondeb ef yn para byth”.
Archwiliwch Salmau 118:1-4
7
Salmau 118:13-16
Gwthiwyd fi’n galed, nes fy mod Ar syrthio, ond rhoes Duw Gymorth i mi; fy nerth a’m clod A’m gwaredigaeth yw. Clywch gân achubiaeth heddiw’n dod O bebyll y rhai byw: “Mae deheulaw Duw yn rymus iawn”.
Archwiliwch Salmau 118:13-16
8
Salmau 118:9-12
Gwell yw gobeithio yn Nuw yn llwyr Nag mewn arweinwyr ffôl. Daeth y cenhedloedd gyda’r hwyr, Ond gyrraf hwy yn ôl. Heidiant fel gwenyn o gylch cwyr, Fel tân mewn drain ar ddôl; Ond yn enw Duw gorchfygaf hwy.
Archwiliwch Salmau 118:9-12
9
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos