1
Ioan 12:26
Beibl William Morgan yn cynnwys yr Apocryffa - Argraffiad 1959
Os gwasanaetha neb fi, dilyned fi: a lle yr wyf fi, yno y bydd fy ngweinidog hefyd: ac os gwasanaetha neb fi, y Tad a’i hanrhydedda ef.
Cymharu
Archwiliwch Ioan 12:26
2
Ioan 12:25
Yr hwn sydd yn caru ei einioes, a’i cyll hi; a’r hwn sydd yn casáu ei einioes yn y byd hwn, a’i ceidw hi i fywyd tragwyddol.
Archwiliwch Ioan 12:25
3
Ioan 12:24
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni syrth y gronyn gwenith i’r ddaear, a marw, hwnnw a erys yn unig: eithr os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer.
Archwiliwch Ioan 12:24
4
Ioan 12:46
Mi a ddeuthum yn oleuni i’r byd, fel y bo i bob un a’r sydd yn credu ynof fi, nad arhoso yn y tywyllwch.
Archwiliwch Ioan 12:46
5
Ioan 12:47
Ac os clyw neb fy ngeiriau, ac ni chred, myfi nid wyf yn ei farnu ef: canys ni ddeuthum i farnu’r byd, eithr i achub y byd.
Archwiliwch Ioan 12:47
6
Ioan 12:3
Yna y cymerth Mair bwys o ennaint nard gwlyb gwerthfawr, ac a eneiniodd draed yr Iesu, ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt: a’r tŷ a lanwyd gan arogl yr ennaint.
Archwiliwch Ioan 12:3
7
Ioan 12:13
A gymerasant gangau o’r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod ag ef, ac a lefasant, Hosanna: Bendigedig yw Brenin Israel, yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.
Archwiliwch Ioan 12:13
8
Ioan 12:23
A’r Iesu a atebodd iddynt, gan ddywedyd, Daeth yr awr y gogonedder Mab y dyn.
Archwiliwch Ioan 12:23
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos