1
Ioan 19:30
Beibl William Morgan yn cynnwys yr Apocryffa - Argraffiad 1959
Yna pan gymerodd yr Iesu’r finegr, efe a ddywedodd, Gorffennwyd: a chan ogwyddo ei ben, efe a roddes i fyny yr ysbryd.
Cymharu
Archwiliwch Ioan 19:30
2
Ioan 19:28
Wedi hynny yr Iesu, yn gwybod fod pob peth wedi ei orffen weithian, fel y cyflawnid yr ysgrythur, a ddywedodd, Y mae syched arnaf.
Archwiliwch Ioan 19:28
3
Ioan 19:26-27
Yr Iesu gan hynny, pan welodd ei fam, a’r disgybl yr hwn a garai efe yn sefyll gerllaw, a ddywedodd wrth ei fam, O wraig, wele dy fab. Gwedi hynny y dywedodd wrth y disgybl, Wele dy fam. Ac o’r awr honno allan y cymerodd y disgybl hi i’w gartref.
Archwiliwch Ioan 19:26-27
4
Ioan 19:33-34
Eithr wedi iddynt ddyfod at yr Iesu, pan welsant ef wedi marw eisoes, ni thorasant ei esgeiriau ef. Ond un o’r milwyr a wanodd ei ystlys ef â gwaywffon: ac yn y fan daeth allan waed a dwfr.
Archwiliwch Ioan 19:33-34
5
Ioan 19:36-37
Canys y pethau hyn a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr ysgrythur, Ni thorrir asgwrn ohono. A thrachefn, ysgrythur arall sydd yn dywedyd, Hwy a edrychant ar yr hwn a wanasant.
Archwiliwch Ioan 19:36-37
6
Ioan 19:17
Ac efe gan ddwyn ei groes, a ddaeth i le a elwid Lle’r benglog, ac a elwir yn Hebraeg, Golgotha
Archwiliwch Ioan 19:17
7
Ioan 19:2
A’r milwyr a blethasant goron o ddrain, ac a’i gosodasant ar ei ben ef, ac a roesant wisg o borffor amdano
Archwiliwch Ioan 19:2
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos