1
Luc 11:13
Beibl William Morgan yn cynnwys yr Apocryffa - Argraffiad 1959
Os chwychwi gan hynny, y rhai ydych ddrwg, a fedrwch roi rhoddion da i’ch plant chwi; pa faint mwy y rhydd eich Tad o’r nef yr Ysbryd Glân i’r rhai a ofynno ganddo?
Cymharu
Archwiliwch Luc 11:13
2
Luc 11:9
Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe a agorir i chwi.
Archwiliwch Luc 11:9
3
Luc 11:10
Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir.
Archwiliwch Luc 11:10
4
Luc 11:2
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan weddïoch, dywedwch, Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw. Deued dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
Archwiliwch Luc 11:2
5
Luc 11:4
A maddau i ni ein pechodau: canys yr ydym ninnau yn maddau i bawb sydd yn ein dyled. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg.
Archwiliwch Luc 11:4
6
Luc 11:3
Dyro i ni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol.
Archwiliwch Luc 11:3
7
Luc 11:34
Cannwyll y corff yw’r llygad: am hynny pan fyddo dy lygad yn syml, dy holl gorff hefyd fydd olau; ond pan fyddo dy lygad yn ddrwg, dy gorff hefyd fydd tywyll.
Archwiliwch Luc 11:34
8
Luc 11:33
Ac nid yw neb wedi golau cannwyll, yn ei gosod mewn lle dirgel, na than lestr; eithr ar ganhwyllbren, fel y gallo’r rhai a ddelo i mewn weled y goleuni.
Archwiliwch Luc 11:33
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos