Oherwydd paham ni’m tybiais fy hun yn deilwng i ddyfod atat: eithr dywed y gair, a iach fydd fy ngwas. Canys dyn wyf finnau wedi fy ngosod dan awdurdod, a chennyf filwyr danaf: ac meddaf wrth hwn, Dos, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a’i gwna. Pan glybu’r Iesu y pethau hyn, efe a ryfeddodd wrtho, ac a drodd, ac a ddywedodd wrth y bobl oedd yn ei ganlyn, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel.