Pan oedd y Saboth drosodd, prynodd Mair Magdalen, a Mair mam Iago a Salome, beraroglau, er mwyn eneinio corff Iesu. Yn fore iawn, ar y dydd cyntaf o'r wythnos, daethon nhw at y bedd. Ar y ffordd dwedon nhw wrth ei gilydd, “Pwy a gawn ni i symud y garreg sy ar draws yr agoriad?” Wedi iddyn nhw gyrraedd y man ac edrych i fyny, gwelon nhw fod y garreg fawr wedi'i symud. Aethon nhw i mewn i'r bedd, a gweld dyn ifanc mewn gwisg laes, wen yn eistedd ar yr ochr dde. Cawson nhw dipyn o fraw, ond dwedodd y dyn wrthyn nhw am beidio â phryderu. “Rydych chi'n ceisio Iesu o Nasareth a groeshoeliwyd. Dydy e ddim yma, mae e wedi cyfodi. Edrychwch, dyma'r lle y rhoddon nhw fe i orwedd. Ewch a dwedwch wrth ei ddisgyblion ac wrth Pedr, ‘Mae e'n mynd o'ch blaen chi i Galilea, ac fe gewch ei weld yno, fel y dwedodd wrthoch chi.’ ” Rhedon nhw allan o'r bedd yn crynu gan ofn, ond ddwedon nhw ddim wrth unrhyw un.