Dechreuodd Iesu ddysgu'r disgyblion bod rhaid i Fab y Dyn ddioddef llawer, a chael ei wrthod gan yr henuriaid, y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a chodi'n fyw ymhen tri diwrnod. Dwedodd hyn yn gwbl agored wrthyn nhw. Dechreuodd Pedr ei geryddu. Trodd Iesu at ei ddisgyblion a cheryddodd Pedr yn llym, “Dos o'm golwg, yr un drwg! Meddwl am bethau dynion rwyt ti, dwyt ti ddim yn ystyried pethau Duw.” Yna galwodd Iesu'r dyrfa a'i ddisgyblion ynghyd a dwedodd, “Os oes un ohonoch am ddod ar fy ôl i, bydd yn rhaid iddo roi ei hunan o'r neilltu, codi ei groes a'm dilyn i. Achos pwy bynnag sy am gadw ei fywyd, sy'n mynd i'w golli; a phwy bynnag sy'n colli ei fywyd er fy mwyn i a'r Newyddion Da, sy'n mynd i'w gadw. Faint gwell ydy unrhyw un o ennill yr holl fyd, os ydy e'n colli ei fywyd wrth wneud hynny? Be all unrhyw un ei roi sy mor werthfawr â'i fywyd? Pwy bynnag fydd â chywilydd ohonof fi a'm geiriau yn y genhedlaeth annuwiol a phechadurus hon, bydd gan Fab y Dyn hefyd gywilydd ohonyn nhw pan ddaw yng ngogoniant ei Dad gyda'r angylion sanctaidd.”