1
Ioan 19:30
Y Ffordd Newydd - 4 Efengyl mewn Cymraeg Byw 1971
Wedi derbyn y gwin, meddai, “Mae’r cyfan yn awr wedi ei gyflawni.” Gwyrodd ei ben a bu farw.
Cymharu
Archwiliwch Ioan 19:30
2
Ioan 19:28
Ac ar ôl hyn ac yntau yn gwybod yn awr fod popeth wedi dod i ben, fe ddywedodd yr Iesu, er mwyn i’r Ysgrythur ddod yn wir, “Mae syched arnaf.”
Archwiliwch Ioan 19:28
3
Ioan 19:26-27
Gwelodd yr Iesu ei fam a’r disgybl a garai yn sefyll yno, ac meddai wrthi: “Wraig, dacw dy fab di.” Ac yna dywedodd wrth y disgybl, “Dacw dy fam.” Ac o’r foment honno cymerodd y disgybl hi i’w gartref.
Archwiliwch Ioan 19:26-27
4
Ioan 19:33-34
ond pan ddaethon nhw at yr Iesu, fe welson ei fod ef wedi marw’n barod, felly thorason nhw mo’i goesau ef. Ond fe drywanodd un o’r milwyr ystlys yr Iesu â phicell, ac ar unwaith fe lifodd allan waed a dŵr.
Archwiliwch Ioan 19:33-34
5
Ioan 19:36-37
Digwyddodd hyn er mwyn i’r Ysgrythur ddod yn wir. ‘Ni chaiff asgwrn ohono ei dorri.’ Ac fe ddywed rhan arall o’r Ysgrythur, ‘Mi fyddan nhw’n syllu ar y sawl a drywanwyd ganddyn nhw.’
Archwiliwch Ioan 19:36-37
6
Ioan 19:17
A chan gario ei groes ei hun aeth allan i ‘Le y Benglog’, fel y’i gelwir. (Neu yn iaith yr Iddewon, ‘Golgotha’.)
Archwiliwch Ioan 19:17
7
Ioan 19:2
plethodd y milwyr goron o ddrain a’i rhoi ar ei ben, a rhoi mantell borffor amdano.
Archwiliwch Ioan 19:2
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos