dyna pam na ddeuthum atat fy hun. Dywed y gair, ac fe iacheir fy ngwas. Dyn dan awdurdod ydw innau hefyd; mae gennyf filwyr danaf. Fe ddywedaf wrth un, ‘Dos,’ ac mae e’n mynd, ac wrth un arall, ‘Tyrd,’ ac fe ddaw, ac wrth fy ngwas, ‘Gwna hyn,’ ac mae’n ei wneud.”
Pan glywodd Iesu hyn, rhyfeddodd ato, a chan droi meddai wrth y dyrfa a’i dilynai, “Credwch chi fi, ni chefais i ffydd fel hyn, naddo, gan neb yn Israel.”