1
S. Ioan 15:5
Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.)
Myfi yw’r winwydden, chwychwi yw’r canghennau. Yr hwn sy’n aros Ynof, ac Myfi ynddo yntau, efe sy’n dwyn ffrwyth lawer; canys yn wahan Oddiwrthyf ni ellwch wneuthur dim.
Cymharu
Archwiliwch S. Ioan 15:5
2
S. Ioan 15:4
Arhoswch Ynof, ac Myfi ynoch chwi. Fel nad yw’r gangen yn abl i ddwyn ffrwyth o honi ei hun os nad erys yn y winwydden, felly ni ellwch chwithau os nad Ynof yr arhoswch.
Archwiliwch S. Ioan 15:4
3
S. Ioan 15:7
Os arhoswch Ynof, ac Fy ngeiriau a arhosant ynoch, pa beth bynnag a ewyllysiwch, gofynwch ef, a bydd i chwi.
Archwiliwch S. Ioan 15:7
4
S. Ioan 15:16
Nid chwi a’m dewisasoch I, eithr Myfi a ddewisais chwi, ac a’ch gosodais fel yr eloch chwi, a ffrwyth a ddygoch, ac y bo i’ch ffrwyth aros; fel pa beth bynnag a ofynoch gan y Tad, y rhoddo Efe i chwi.
Archwiliwch S. Ioan 15:16
5
S. Ioan 15:13
Cariad mwy na hwn nid oes gan neb, sef fod i ddyn ddodi i lawr ei einioes dros ei gyfeillion.
Archwiliwch S. Ioan 15:13
6
S. Ioan 15:2
Pob cangen Ynof nad yw yn dwyn ffrwyth, cymmer Efe hi ymaith; a phob un y sy’n dwyn ffrwyth, ei glanhau y mae Efe, fel y dygo fwy o ffrwyth.
Archwiliwch S. Ioan 15:2
7
S. Ioan 15:12
Hwn yw Fy ngorchymyn, Ar garu o honoch eich gilydd fel y cerais chwi.
Archwiliwch S. Ioan 15:12
8
S. Ioan 15:8
Yn hyn y gogoneddir Fy Nhad, pan ffrwyth lawer a ddygoch; a byddwch Fy nisgyblion I.
Archwiliwch S. Ioan 15:8
9
S. Ioan 15:1
Myfi yw’r winwydden wir; ac Fy Nhad, y llafurwr yw.
Archwiliwch S. Ioan 15:1
10
S. Ioan 15:6
Onid erys un Ynof, bwrir ef allan, fel y gangen, a gwywa: a chasglant hwynt, ac i’r tân y’u bwriant, a llosgir hwynt.
Archwiliwch S. Ioan 15:6
11
S. Ioan 15:11
Y pethau hyn a leferais wrthych, fel y bo Fy llawenydd ynoch, ac i’ch llawenydd ei gyflawni.
Archwiliwch S. Ioan 15:11
12
S. Ioan 15:10
Os Fy ngorchymynion a gedwch, arhoswch yn Fy nghariad; fel y cedwais I orchymynion Fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn Ei gariad Ef.
Archwiliwch S. Ioan 15:10
13
S. Ioan 15:17
Hyn a orchymynaf i chwi, Garu o honoch eich gilydd.
Archwiliwch S. Ioan 15:17
14
S. Ioan 15:19
Os o’r byd y byddech, y byd a garai ei eiddo; ond gan nad o’r byd yr ydych, eithr Myfi a’ch dewisais allan o’r byd, o achos hyn eich casau y mae y byd.
Archwiliwch S. Ioan 15:19
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos