Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnodau Beiblaidd Poblogaidd o Salmau 48

Fel y galloch adrodd i’r oes a ddêl pa fath Dduw Yw ein Duw ni. Ef a’n harwain byth mwy. SALM XLVIII Gwaredigaeth Ieriwsalem rhag Senacherib a’i luoedd yn 701 C.C. yw achlysur canu y Salm brydferth hon hefyd (gwêl Salm 46). Ond bernir gan rai mai cân pererin o fro bell yw hi, a mynega yma serch ei galon at yr hen ddinas enwog. Defnyddir hi yn yr eglwysi ar y Sulgwyn oherwydd credid gynt fod ynddi ddarlun o’r Eglwys a gafodd ei sefydlu ar y Pentecost. 1, 2, 3: Mawr yw awdurdod Iehofa yn y ddinas, a haedda pob moliant. Ar fynydd Sion y safai’r deml, ar y rhan i’r gogledd-ddwyrain. Nid yw’r awdur yn ei chymharu hi â mynydd Olympws. Cyn deced yw Ieriwsalem iddo ef ag Athen i’r Groegiaid neu Rufain i’r Rhufeiniwr, ond ei bri mwyaf yw y gweithredoedd nerthol a rhyfeddol a wnaeth Iehofa ynddi. 4—8. Disgrifiad byw a dramatig o’r adwyth a ddaeth i luoedd Senacherib (gwêl 2 Br. 19). Dychrynwyd hwynt gan gadernid ceyrydd y ddinas. Yn adn. 7 “llongau Tarsis” sydd yn y testun, a’r meddwl yw ‘llongau yn ddigon mawr i fordwyo hyd Tartessus yn Hispaen’. 9, 10, 11. Y mae profiad y presennol yn cadarnhau holl hanes rhyfedd Iehofa. Cawsant weld gwaredigaethau oedd mor rhyfeddol â dim a ddigwyddodd yn eu hanes hir. Gellir cyfieithu ‘cyfiawnder’ yn ‘fuddugoliaeth’ yn adn. 11. 12, 13, 14. Nid oes amau ar y waredigaeth a gafwyd; gellir distewi pob amheuaeth drwy gymryd tro o amgylch yr hen ddinas a gweld ei muriau a’i thyrau cyfain, ni fennodd y gelyn ddim arnynt. Darn o deitl y Salm sy’n dilyn ydyw gair a gyfieithir ‘hyd angau’. Yr un gair ydyw a’r hwn a gyfieithir ‘I leisiau bechgyn’ yn Salm 46. 1. Credodd yr Iddew fod Duw yn ei ddatguddio ei hun yn hanes y genedl. A ydyw Duw yn ei ddatguddio ei hun yn hanes Cymru? Rhowch enghraifft. 2. Ai yn y gorffennol y rhoddes Duw y datguddiadau grymusaf ohono Ei hun? A allwn ninnau heddiw ategu tystiolaeth adnod 8? 3. I’r sawl sy’n dilorni yr Eglwys heddiw a oes gennym ni apêl fawr at brofiad a ffeithiau fel oedd gan y Salmydd hwn? (Adnod 12). 4. I ba raddau y gelìlir ‘dysgu’ crefydd i’r plant? A ydyw crefyddwyr Cymru heddiw mor ddiwyd â chynt yn hyn o waith?