1
Y Pregethwr 5:2
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Na fydd ry brysur â’th enau, ac na frysied dy galon i draethu dim gerbron DUW: canys DUW sydd yn y nefoedd, a thithau sydd ar y ddaear; ac am hynny bydded dy eiriau yn anaml.
Cymharu
Archwiliwch Y Pregethwr 5:2
2
Y Pregethwr 5:19
Ie, i bwy bynnag y rhoddes DUW gyfoeth a golud; ac y rhoddes iddo ryddid i fwyta ohonynt, ac i gymryd ei ran, ac i lawenychu yn ei lafur; rhodd DUW yw hyn.
Archwiliwch Y Pregethwr 5:19
3
Y Pregethwr 5:10
Y neb a garo arian, ni ddigonir ag arian; na’r neb a hoffo amldra, â chynnyrch. Hyn hefyd sydd wagedd.
Archwiliwch Y Pregethwr 5:10
4
Y Pregethwr 5:1
Gwylia ar dy droed pan fyddych yn myned i dŷ DDUW, a bydd barotach i wrando nag i roi aberth ffyliaid; canys ni wyddant hwy eu bod yn gwneuthur drwg.
Archwiliwch Y Pregethwr 5:1
5
Y Pregethwr 5:4
Pan addunedech adduned i DDUW, nac oeda ei thalu: canys nid oes ganddo flas ar rai ynfyd; y peth a addunedaist, tâl.
Archwiliwch Y Pregethwr 5:4
6
Y Pregethwr 5:5
Gwell i ti fod heb addunedu, nag i ti addunedu a bod heb dalu.
Archwiliwch Y Pregethwr 5:5
7
Y Pregethwr 5:12
Melys yw hun y gweithiwr, pa un bynnag ai ychydig ai llawer a fwytao: ond llawnder y cyfoethog ni ad iddo gysgu.
Archwiliwch Y Pregethwr 5:12
8
Y Pregethwr 5:15
Megis y daeth allan o groth ei fam yn noeth, y dychwel i fyned modd y daeth, ac ni ddwg ddim o’i lafur, yr hyn a ddygo ymaith yn ei law.
Archwiliwch Y Pregethwr 5:15
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos