1
Eseia 55:8
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
BWM
Canys nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i, medd yr ARGLWYDD.
Cymharu
Archwiliwch Eseia 55:8
2
Eseia 55:9
Canys fel y mae y nefoedd yn uwch na’r ddaear, felly uwch yw fy ffyrdd i na’ch ffyrdd chwi, a’m meddyliau i na’ch meddyliau chwi.
Archwiliwch Eseia 55:9
3
Eseia 55:6
Ceisiwch yr ARGLWYDD, tra y galler ei gael ef; gelwch arno, tra fyddo yn agos.
Archwiliwch Eseia 55:6
4
Eseia 55:7
Gadawed y drygionus ei ffordd, a’r gŵr anwir ei feddyliau; a dychweled at yr ARGLWYDD, ac efe a gymer drugaredd arno; ac at ein DUW ni, oherwydd efe a arbed yn helaeth.
Archwiliwch Eseia 55:7
5
Eseia 55:1
O deuwch i’r dyfroedd, bob un y mae syched arno, ie, yr hwn nid oes arian ganddo; deuwch, prynwch, a bwytewch; ie, deuwch, prynwch win a llaeth, heb arian, ac heb werth.
Archwiliwch Eseia 55:1
6
Eseia 55:10-11
Canys fel y disgyn y glaw a’r eira o’r nefoedd, ac ni ddychwel yno, eithr dyfrha y ddaear, ac a wna iddi darddu a thyfu, fel y rhoddo had i’r heuwr, a bara i’r bwytawr: Felly y bydd fy ngair, yr hwn a ddaw o’m genau: ni ddychwel ataf yn wag; eithr efe a wna yr hyn a fynnwyf, ac a lwydda yn y peth yr anfonais ef o’i blegid.
Archwiliwch Eseia 55:10-11
7
Eseia 55:12
Canys mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn hedd y’ch arweinir; y mynyddoedd a’r bryniau a floeddiant ganu o’ch blaen, a holl goed y maes a gurant ddwylo.
Archwiliwch Eseia 55:12
8
Eseia 55:3
Gogwyddwch eich clust, a deuwch ataf; gwrandewch, a bydd byw eich enaid: a mi a wnaf gyfamod tragwyddol â chwi, sef sicr drugareddau Dafydd.
Archwiliwch Eseia 55:3