1
Eseia 6:8
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Clywais hefyd lef yr ARGLWYDD yn dywedyd, Pwy a anfonaf? a phwy a â drosom ni? Yna y dywedais, Wele fi, anfon fi.
Cymharu
Archwiliwch Eseia 6:8
2
Eseia 6:3
A llefodd y naill wrth y llall, ac a ddywedodd, Sanct, Sanct, Sanct, yw ARGLWYDD y lluoedd, yr holl ddaear sydd lawn o’i ogoniant ef.
Archwiliwch Eseia 6:3
3
Eseia 6:5
Yna y dywedais, Gwae fi! canys darfu amdanaf: oherwydd gŵr halogedig ei wefusau ydwyf fi, ac ymysg pobl halogedig o wefusau yr ydwyf yn trigo: canys fy llygaid a welsant y brenin, ARGLWYDD y lluoedd.
Archwiliwch Eseia 6:5
4
Eseia 6:1
Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Usseia, y gwelais hefyd yr ARGLWYDD yn eistedd ar eisteddfa uchel a dyrchafedig, a’i odre yn llenwi y deml.
Archwiliwch Eseia 6:1
5
Eseia 6:7
Ac a’i rhoes i gyffwrdd â’m genau, ac a ddywedodd, Wele, cyffyrddodd hwn â’th wefusau, ac ymadawodd dy anwiredd, a glanhawyd dy bechod.
Archwiliwch Eseia 6:7
6
Eseia 6:2
Y seraffiaid oedd yn sefyll oddi ar hynny: chwech adain ydoedd i bob un: â dwy y cuddiai ei wyneb, ac â dwy y cuddiai ei draed, ac â dwy yr ehedai.
Archwiliwch Eseia 6:2
7
Eseia 6:6
Yna yr ehedodd ataf un o’r seraffiaid, ac yn ei law farworyn a gymerasai efe oddi ar yr allor mewn gefel
Archwiliwch Eseia 6:6
8
Eseia 6:9
Ac efe a ddywedodd, Dos, a dywed wrth y bobl hyn, Gan glywed clywch, ond na ddeellwch; a chan weled gwelwch, ond na wybyddwch.
Archwiliwch Eseia 6:9
9
Eseia 6:10
Brasâ galon y bobl hyn, a thrymha eu clustiau, a chae eu llygaid; rhag iddynt weled â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’u calon, a dychwelyd, a’u meddyginiaethu.
Archwiliwch Eseia 6:10
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos