1
Diarhebion 29:25
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Ofn dyn sydd yn dwyn magl: ond y neb a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD a ddyrchefir.
Cymharu
Archwiliwch Diarhebion 29:25
2
Diarhebion 29:18
Lle ni byddo gweledigaeth, methu a wna y bobl: ond y neb a gadwo y gyfraith, gwyn ei fyd ef.
Archwiliwch Diarhebion 29:18
3
Diarhebion 29:11
Y ffôl a dywallt ei holl feddwl: ond gŵr doeth a’i hatal hyd yn ôl.
Archwiliwch Diarhebion 29:11
4
Diarhebion 29:15
Y wialen a cherydd a rydd ddoethineb: ond mab a gaffo ei rwysg ei hun, a gywilyddia ei fam.
Archwiliwch Diarhebion 29:15
5
Diarhebion 29:17
Cerydda dy fab, ac efe a bair i ti lonyddwch; ac a bair hyfrydwch i’th enaid.
Archwiliwch Diarhebion 29:17
6
Diarhebion 29:23
Balchder dyn a’i gostwng ef: ond y gostyngedig o ysbryd a gynnal anrhydedd.
Archwiliwch Diarhebion 29:23
7
Diarhebion 29:22
Gŵr dicllon a ennyn gynnen; a’r llidiog sydd aml ei gamwedd.
Archwiliwch Diarhebion 29:22
8
Diarhebion 29:20
A weli di ddyn prysur yn ei eiriau? gwell yw y gobaith am y ffôl nag amdano ef.
Archwiliwch Diarhebion 29:20
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos