1
Y Salmau 18:2
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, a’m hamddiffynfa, a’m gwaredydd; fy NUW, fy nghadernid, yn yr hwn yr ymddiriedaf; fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth, a’m huchel dŵr.
Cymharu
Archwiliwch Y Salmau 18:2
2
Y Salmau 18:30
DUW sydd berffaith ei ffordd: gair yr ARGLWYDD sydd wedi ei buro: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo.
Archwiliwch Y Salmau 18:30
3
Y Salmau 18:3
Galwaf ar yr ARGLWYDD canmoladwy: felly y’m cedwir rhag fy ngelynion.
Archwiliwch Y Salmau 18:3
4
Y Salmau 18:6
Yn fy nghyfyngder y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac y gwaeddais ar fy NUW: efe a glybu fy llef o’i deml, a’m gwaedd ger ei fron a ddaeth i’w glustiau ef.
Archwiliwch Y Salmau 18:6
5
Y Salmau 18:28
Oherwydd ti a oleui fy nghannwyll: yr ARGLWYDD fy NUW a lewyrcha fy nhywyllwch.
Archwiliwch Y Salmau 18:28
6
Y Salmau 18:32
DUW sydd yn fy ngwregysu â nerth, ac yn gwneuthur fy ffordd yn berffaith.
Archwiliwch Y Salmau 18:32
7
Y Salmau 18:46
Byw yw yr ARGLWYDD, a bendithier fy nghraig: a dyrchafer DUW fy iachawdwriaeth.
Archwiliwch Y Salmau 18:46
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos