1
Mathew 7:7
Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos)
Gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, a chwi gewch; curwch, ac fe agorir i chwi.
Cymharu
Archwiliwch Mathew 7:7
2
Mathew 7:8
Canys pawb a ofyn a dderbyn, a’r neb a gais a gaiff, ac i’r neb a gura yr agorir.
Archwiliwch Mathew 7:8
3
Mathew 7:24
Pob un, ynteu, a glyw fy ngeiriau hyn, ac a’u gwna, a gyffelybir i ŵr call a adeiladodd ei dŷ ar y graig
Archwiliwch Mathew 7:24
4
Mathew 7:12
Popeth, ynteu, a fynnoch i ddynion eu gwneuthur i chwi, gwnewch chwithau felly iddynt hwy; canys hyn yw’r gyfraith a’r proffwydi.
Archwiliwch Mathew 7:12
5
Mathew 7:14
canys cul yw’r porth a chyfyng yw’r ffordd sy’n arwain i’r bywyd, ac ychydig yw’r rhai sy’n cael hyd iddi.
Archwiliwch Mathew 7:14
6
Mathew 7:13
Ewch i mewn trwy’r porth cul; canys eang yw’r porth a llydan yw’r ffordd sy’n arwain i ddistryw, a llawer yw’r rhai sy’n mynd i mewn ar hyd-ddi
Archwiliwch Mathew 7:13
7
Mathew 7:11
Os chwi, ynteu, a chwithau’n ddrwg, a wyddoch sut i roi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofyn iddo?
Archwiliwch Mathew 7:11
8
Mathew 7:1-2-1-2
Na fernwch, fel na’ch barner; canys â’r farn y bernwch y’ch bernir, ac â’r mesur y mesurwch y mesurir i chwi.
Archwiliwch Mathew 7:1-2-1-2
9
Mathew 7:26
A phawb a glyw fy ngeiriau hyn, ac nis gwna, a gyffelybir i ŵr ffôl a adeiladodd ei dŷ ar y tywod
Archwiliwch Mathew 7:26
10
Mathew 7:3-4
A pham y sylwi ar y fflewyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ystyri’r trawst sydd yn dy lygad di? Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, ‘Gad imi dynnu’r fflewyn o’th lygad,’ a dyna’r trawst yn dy lygad di?
Archwiliwch Mathew 7:3-4
11
Mathew 7:15-16
Gochelwch y gau broffwydi, sy’n dyfod atoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn sy’n lleiddiaid rheibus. Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. Yn sicr ni chasgl neb rawnwin oddi ar ddrain neu ffigys oddi ar ysgall?
Archwiliwch Mathew 7:15-16
12
Mathew 7:17
Felly pob pren da a rydd ffrwythau da, ond y pren sâl a rydd ffrwythau gwael.
Archwiliwch Mathew 7:17
13
Mathew 7:18
Ni all pren da ddwyn ffrwythau gwael, na phren sâl ddwyn ffrwythau da.
Archwiliwch Mathew 7:18
14
Mathew 7:19
Pob pren ni roddo ffrwyth da a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân.
Archwiliwch Mathew 7:19
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos