Yr Arglwydd cyfiawn a gâr o hyd
Farn a chyfiawnder yn y byd;
Ac ar y cyfiawn edrych ef
Yn ei ewyllys da o’r nef.
NODIADAU.
Tymmor cyfoethog iawn o weddïau a salmau oedd y tymmor hwnw o fywyd Dafydd pan oedd yn cael ei erlid gan Saul. I’r tymmor hwnw yn ddiau y perthynai y salm hon. Yr achlysur neillduol a barai iddo ei chyfansoddi oedd, bod naill ai gelynion maleisus, mewn dirmyg arno, neu gyfeillion caredig, mewn ofnau am dano, yn ei gynghori i gilio o’r golwg, ac ymguddio i gilfach mewn rhyw fynydd anghyfannedd, neu y darfyddai am dano yn sicr. Mewn attebiad, dywed yntau, mai yn yr Arglwydd yr oedd efe yn ymddiried am ddiogelwch; heb hyny, mai ofer fuasai iddo ddisgwyl am help a nawdd o’r bryniau ac o liaws y mynyddoedd; ei fod yn gwybod yn dda am falais ac amcan ei elynion, oedd yn trefnu eu bwäau, ac yn parotoi eu saethau yn erbyn ei fywyd ef, ac mai y gelynion hyny oedd llywodraethwyr a barnwyr y wlad. Bod cyflwr cymdeithas yn druenus i’r eithaf, ei seiliau megys wedi eu dinystrio pan oedd y rhai a ddylasent ofalu am ddiogelwch y cyhoedd yn erlid ac yn ceisio dyfetha y rhai heddychol a ffyddlawn, fel yr oedd Saul a’i weision yn ceisio ei ddyfetha ef a phawb a ddangosent unrhyw garedigrwydd iddo:— ond er hyny, fod Barnwr yn y nefoedd, oedd yn gweled ac yn goruwchlywodraethu y cwbl; ac y byddai iddo ef, wedi i gyfiawnder y cyfiawn gael ei brofi a’i ddangos, ddyfod allan o’i blaid, a dial ar ei erlidwyr: hwyrach, mewn modd arswydus ac ofnadwy, fel y dyfethwyd Sodom a Gommorah — at yr hyn y cyfeirir, y mae yn debygol, yn adn. 6. Y mae yr ystyriaeth am Dduw fel Barnwr cyfiawn a hollwybodol yn ffynnon cysur a dyddanwch i’r diniwed a’r cyfiawn dan erlidiau a gorthrymderau bywyd — y câ efe a’i achos gyfiawnder yn y diwedd.