Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnodau Beiblaidd Poblogaidd o Salmau 17

Mi edrychaf mewn cyfiawnder Ar dy wyneb yn ddifraw; Llawn ddigonir pan ddihunwyf Fi â’th ddelw ddydd a ddaw: Dyna fywyd, & c., O ddedwyddwch bery byth. NODIADAU. Hòna y Salmydd yn y salm hon, fel mewn amryw ereill o salmau yr un tymmor o’i fywyd, ei berffaith ddiniweidrwydd o’r bai y cyhuddid ef gan Saul, a gwŷr ei lŷs; sef, o’i fod yn cynllwyn bradwriaeth yn erbyn gorsedd a bywyd y brenin. Wedi appelio yn y modd cryfaf at Dduw fel tyst o’i ddiniweidrwydd, cyflwyna ei hun yn ffyddiog i’w nawdd a’i arweiniad ef, a’i elynion maleisus hefyd, i’w barnu a’u ceryddu yn ol ei ddoethineb, ac yn ei amser ef ei hun. Geilw yr annuwiol, Saul a’i gyffelyb, yn llaw a chleddyf Duw — bod ei allu goruwchlywodraethol ef ar holl weithrediadau a bwriadau drygionus yr annuwiol, fel na allo wneyd dim ond a oddefo efe iddo; a’i fod yn ei ddefnyddio fel offeryn yn aml i gyflawni ei fwriadau doethion a daionus ei hun. Edrycha ar druenus gyflwr yr annuwiol yn nghanol ei lwyddiant a’i gyfoeth, ei rwysg, a’i ryfyg; o herwydd mai yn y byd a’r bywyd hwn yn unig y mae ei ran ef, a’r bywyd hwnw mor frau, ansicr, a byr ar y goreu. Cyferbyna ei gyflwr dedwydd ef ei hun yn nghanol ei beryglon, â chyflwr ei elynion yn nghanol eu golud a’u llwyddiant presennol, gan mai Duw yn ei heddwch a’i foddlonrwydd ydoedd ei ran a’i etifeddiaeth ef, a bod ganddo obaith sicr oedd yn ymestyn y tu hwnt i’r byd a’r bywyd presennol hwn i fyd a bywyd anfarwol a thragywyddol, lle y cai ei lawn ddigoni byth â’r mwynhâd o Dduw, pan ddihunai ei gorph o’r bedd, wedi ei berffeithio ar ei ddelw ef. Prophwydasai yn y salm o’r blaen am adgyfodiad y Messïah o’r bedd cyn gweled llygredigaeth; ac yma traetha ei hyder am adgyfodiad ei gorph ei hun etto, a’i adferiad i ddelw y cyntafanedig o’r meirw, er i lygredigaeth falurio, a theyrnasu ar ei sylwedd oesau lawer.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Salmau 17