Dyn druan mewn anrhydedd,
Heb ddeall, ac heb ddawn,
Sydd debyg i’r anifail
Ddiflana ’n ebrwydd iawn;
Clywch hyn, yr holl genhedloedd—
Ystyriwch bobloedd byd—
Derbyniwch hyn o addysg,
A byddwch ddoeth mewn pryd!
NODIADAU.
Y mae y Salmydd megys yn udganu âg udgorn mawr ar ddechreu y salm hon, i ddeffro a galw yr holl bobloedd, holl drigolion y byd, pob dosbarth o ddynion — gwreng a boneddig, cyfoethog a thlawd — i wrandaw ac ystyried yr addysg bwysig sydd ganddo i’w chyfranu iddynt. Dysga y cyfoethog i beidio ymddiried ac ymffrostio yn ei olud, gan ddangos mor annigonol ac aneffeithiol ydyw i wneyd bywyd dyn yn ddedwydd, nac i estyn a pharhau ei einioes; nas gall bwrcasu anfarwoldeb i’w berchenog, a’i waredu rhag llygredigaeth y bedd, a phan y delo i farw, y bydd yn ei adael oll ar ei ol, ac na all gymmeryd dim o hono ymaith gydag ef. Dysga y tlawd i beidio anfoddloni a grwgnach o herwydd ei fod ef yn amddifad o gyfoeth a golud daearol, gan ddwyn ar gof iddo y bydd y tlawd a’r cyfoethog yn fuan yn gydwastad â’u gilydd yn y bedd. Er fod yr addysg hon yn un bwysig ac angenrheidiol iawn i’w choffau a’i chymmhwyso yn fynych, etto gwirioneddau cyffredin a thra adnabyddus y mae hi yn gynnwys; pan y gallasem ddisgwyl oddi wrth y dull mawreddus a chyffrous y mae y salm yn agor, fel y sylwa un, fod rhyw wirionedd newydd a hollol anghyffredin i gael ei dadguddio, neu ryw eglurhâd felly ar ryw hen wirionedd i gael ei roddi. Ac nid ydym yn cael ein siomi yn y disgwyliad; canys os am sefyllfa ddyfodol o gosp ar y drygionus, ac adgyfodiad a barn, pan y gogoneddir y cyfiawnion, ac y llywodraethant ar yr anwir, y lleferir o adn. 5 hyd adn. 10, fel y sylwa Boothroyd. Yr ydym yn cael rhywbeth a ettyb i’n disgwyliad — ac yn yr olwg hono y mae efe yn cymmeryd y geiriau.
Y mae yr ymadrodd, “fel defaid y gosodir hwynt yn uffern,” yn un o’r rhai anhawddaf ei deall yn yr holl Ysgrythyr, medd Boothroyd. ‘Angeu a’u bugeilia hwynt, ac yn moreu y farn y rhai cyfiawn a lywodraethant arnynt:’ — fel yna y cyfieitha ef y geiriau, a’i gyfieithiad ef a ddilynid yn y mydryddiad, fel y gwel y darllenydd.
Y mae addysg y rhan flaenaf o’r salm o’r un natur a thuedd ag addysg Llyfr y Pregethwr — yn dangos ynfydrwydd y dynion a garant y byd hwn a’i bethau fel y daioni penaf, a wnant gasglu ei gyfoeth a’i drysorau yn brif waith ac amcan eu holl fywyd, ac ydynt felly yn byw fel pe byddent yn golygu byw ac aros ynddo byth, a hwy yn gwybod nad yw bywyd dyn ar y ddaear ond byr iawn ar y goreu, ac yn nghanol profion beunyddiol yn dangos iddynt pa mor ansicr a brau yw yr einioes.