Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnodau Beiblaidd Poblogaidd o Salmau 67

Duw ’n bendithia, a holl derfynau ’R ddaear fawr a’i hofnant ef. NODIADAU. Yr oedd Dafydd “yn esmwyth arno” pan y canodd efe y salm fer ogoneddus hon. Er nad ydyw yn cynnwys unrhyw athrawiaeth efengylaidd neillduol, y mae yn llawn drwyddi o ysbryd efengylaidd. Salm genhadol mewn modd arbenig ydyw, yr hon a ddarllenir bob amser yn mron ar agoriad cyfarfodydd ein cymdeithasau Beiblaidd a chenhadol. Gweddïa y Salmydd yn gyntaf dros yr eglwys Iuddewig, “Duw a drugarhao wrthym ac a’n bendithio,” — sef, ni, ei bobl etholedig a chyfammodol — “a thywyned ei wyneb arnom.” Dyma iachawdwriaeth yn ei ffynnonell wreiddiol, trugaredd — “Duw a drugarhao wrthym,” fel rhai annheilwng, tlawd, ac euog, i faddeu yr anwiredd, a symmud ei euogrwydd oddi arnom etto yn ei gweinyddiad; “ac a’n bendithio,” drwy roi i ni y profiad a’r mwynhâd o’i drugaredd faddeuol ef yn y tangnefedd a ddwg y fendith i’r enaid. Drachefn, yn y perffeithiad o honi, “tywyned ei wyneb arnom.” Gorfoledd yr iachawdwriaeth, yn y mwynhâd o Dduw ei hun: Salm iv. 6, 7. Yna y mae enaid y gweddïwr yn ymeangu, fel y mae yn cofleidio yr holl fyd, yr holl bobl, a’r cenhedloedd, yn ei ddymuniadau goreu drostynt. Gweddïai drosto ei hun ac eglwys Dduw yn ei amser ef, fel y byddent yn fendith i’r byd yn gyffredinol, er ei ddwyn i wybodaeth o ffordd gras ac iachawdwriaeth Duw. Yr oedd enaid y Salmydd, ar y pryd, yn cael rhagolwg ar alwad a dychweliad y Cenhedloedd at Dduw, ac i’r eglwys. Cyflawnwyd deisyfiadau y weddi hon mewn modd arbenig pan aeth “y gyfraith o Seion, a gair yr Arglwydd o Ierusalem,” allan i’r holl fyd at yr holl genhedloedd ar ol dydd y Pentecost; ac Israeliaid oedd y cenhadau cyntaf hyny agos oll. Rhoddir yn olaf olwg ar y canlyniadau gogoneddus a fyddai i’r hyn y gweddïwyd am dano pan gyflawnid ef:— Y bobl oll yn moliannu Duw, ac yn gorfoleddu ynddo; Duw yn eu bendithio hwythau â phob cyflawnder o ddaioni; y ddaear yn dwyn ei ffrwyth i’r trigolion, a hwythau yn dwyn ffrwyth i Dduw — holl gyrau y ddaear yn ei ofni, ac yn ei addoli ef; mewn gair, nef a daear wedi eu had-gymmodi a’u dwyn at eu gilydd drachefn, llygredigaethau a phechodau dynion wedi gwywo dan ddylanwad gras yr efengyl, a holl drueni ac aflwydd pechod wedi eu symmud i fesur helaeth iawn:— “Ni ddrygant ac ni ddyfethant yn holl fynydd fy sancteiddrwydd: canys y ddaear a fydd llawn o wybodaeth yr Arglwydd, megys y mae y dyfroedd yn toi y môr;” Esa . xi. 9. “O hyfryd haf! pa bryd y daw?”