Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnodau Beiblaidd Poblogaidd o Salmau 73

Nesau at Dduw, yn ddiau, Sydd dda i mi: a’m gwaith Fydd rhoi fy ngobaith ynddo, A thraethu ’i ryfedd waith. NODIADAU. Yma dechreua y trydydd llyfr, neu ddosbarth, o’r Salmau, yn ol y rhaniad Hebreaidd — yn cynnwys dwy ar bymtheg o salmau; a salmau cwynfanus a thrallodus iawn gan mwyaf. Priodolir hwynt oll ond un i Asaph. Cawsom un salm i Asaph, sef Salm l., yn y dosbarth blaenorol. Yr oedd Asaph yn ben cerddor yn amser Dafydd. Rhoddai Dafydd y salm a gawn yn 2 Cron . xvi. yn llaw yr Asaph hwnw, i foliannu yr Arglwydd. I’r Asaph hwn y priodolir y salmau hyn fel eu hawdwr gan lawer. Ond yr oedd Asaph arall, a elwir ‘Asaph y gweledydd,’ yn byw yn amser Hezeciah (2 Cron . xx. 30, ac Esa . xxxvi. 3); ac ymddengys i mi yn llawer mwy tebygol mai hwnw, ac nid yr Asaph cyntaf, yn nyddiau Dafydd, oedd awdwr y salmau hyn. Ni phrofodd dinas Ierusalem, a Seion, a’r cyssegr, ddim o’r anrhaith a’r trallodion a ddisgrifir yn rhai o’r salmau hyn, yn nyddiau Dafydd; ond digwyddodd trychinebau cyffelyb yn amser Ioas, Amasiah, ac Ahaz, brenhinoedd Iudah. Rhyw brudd fyfyrdod meddwl trwmfrydig, ond duwiolfrydig, yw y salm hon, ar fater y bu amryw o’r dynion sanctaidd yn yr Ysgrythyr yn petruso yn ei gylch; ac y mae llawer o ddynion da yn petruso felly hyd y dydd hwn. Cynnwysir y dyrys bwngc yn y ffaith y digwydda yn fynych, fod y dynion goreu yn dioddef y trallodion dyfnaf yn y bywyd hwn, tra y mae y cymmeriadau gwaethaf yn llwyddo yn y byd, ac yn mwynhau esmwythder, iechyd, a chysuron bywyd yn bob cyflawnder. A’r cwestiwn ydyw, Pa fodd y mae hyn yn gysson â doethineb a chyfiawnder Duw, a gwirionedd ei addewidion i’w bobl? Bu Iob, a Dafydd ei hun, Ieremiah, a Habaccuc, ac ereill o’r prophwydi, fel yr Asaph hwn, “braidd a thripio, a llithro” gyda’r pwngc hwn: Ier . xv. 28; xii. 1; Hab . i. 4. Disgrifia y Salmydd y frwydr galed iawn a fuasai rhwng ffydd ac anghrediniaeth yn ei enaid ynghylch y mater dyrus hwn:— anghrediniaeth oedd yn trechu yn mhob cynnyg, hyd onid “aeth efe i gyssegr Duw:” yno y torodd goleuni ar y pwngc. Deallodd yn y goleuni hwnw beth fyddai diwedd llwyddiant y rhai ynfyd ac annuwiol yr oedd efe yn cenfigenu wrthynt — y troai eu holl lwyddiant yn fagl a dinystr bythol iddynt; ac y rhoddai holl gystuddiau a gorthrymderau pobl Dduw iddynt hwythau heddychol ffrwyth cyfiawnder yn y diwedd — bod yr holl geryddon “bob boreu, a’r baeddu ar hyd y dydd,” yn cydweithio er eu daioni. Dychwelai adref o’r cyssegr â’i ffydd wedi ei hadgyfnerthu, a’i anghrediniaeth wedi ei faeddu, a chân newydd yn ei enau. Aethai i’r cyssegr y tro hwnw dan riddfan ac ocheneidio: dychwelai oddi yno dan lawenhau a moliannu. Geilw yn ol am byth yr hyn a ddywedasai pan o dan draed ei anghrediniaeth — “Diau mai yn ofer y glanhëais fy nghalon,” & c. (adn. 13) — wedi iddo yn y cyssegr gael ei draed drachefn yn ddiysgog ar graig gwirionedd tystiolaeth yr adnod gyntaf:— “Yn ddiau, da yw Duw i Israel,” & c. Yn awr, medd efe, “Minnau, nesau at Dduw sydd dda i mi.” Y mae y dystiolaeth yn yr adnod flaenaf o’r salm yn brofiad personol, presennol, ganddo yn ei enaid yn yr adnod olaf. Y mae profiad Asaph yn y salm hon wedi ei wireddu yn gymmhwys fel yr adroddir ef ynddi yn mhrofiad llaweroedd o saint Duw yn mhob oes. Yn y goleuni a geir yn y cyssegr — yn y dadguddiad a rydd gair ac addewidion Duw yn unig y gellir iawn ddeall goruchwyliaethau Duw tuag at blant dynion, a’i blant ei hun, yn y byd a’r bywyd hwn.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Salmau 73