Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnodau Beiblaidd Poblogaidd o Salmau 83

Fel y gwybyddo pawb mai ti sy’ Dduw, Dy enw mawr, IEHOFAH, unig yw; Ti, yr hwn wyt Oruchaf ben y byd, Ac yr arswydant ger dy fron i gyd. NODIADAU. O bob amgylchiad yn hanes gwladwriaeth Israel, yr hanes am gynghrair yr Edomiaid a’r Moabiaid, a thrigolion Mynydd Seir, a’u cynghreiriaid o genhedloedd ereill, yn erbyn Iehosaphat, yn 2 Cron . xx., sydd yn cyfatteb oreu i’r disgrifiad yn y salm hon; felly, nid Asaph y Pencerdd yn amser Dafydd, nac Asaph y Gweledydd yn amser Hezeciah, oedd ei hawdwr. Yr oedd y cyntaf wedi marw, a’r olaf heb ei eni, y pryd hwnw. Dywedir yn yr hanes am yr amgylchiad y cyfeiriwyd ato i Ysbryd yr Arglwydd ddyfod “ar Iahaziel mab Zechariah, fab Benaiah, fab Ieiel, fab Mattaniah, Lefiad o feibion Asaph. . . yn nghanol y gynnulleidfa,” ac iddo ragfynegu llwyr ddinystr y cynghreiriaid hyny, heb i Iehosaphat a’i wŷr wneyd dim ond sefyll yn llonydd, i edrych ar y dinystr a ddygai yr Arglwydd ar eu gelynion; ac felly, nis gall dim fod yn fwy naturiol na’r dyb mai y Lefiad hwnw o feibion Asaph oedd awdwr y salm hon. Gallem dybio hefyd yn ddigon naturiol fod y Lefiad duwiolfrydig hwn, pan yr oedd Iehosaphat a’i wŷr mewn digalondid ac ofn mawr, yn yr olwg ar y dyrfa fawr oedd yn dyfod i’w herbyn, yn gweddïo am gyfryngiad dwyfol er dinystr y gelynion, ac mai y salm hon oedd ei weddi; ac mai pan yr oedd yn ei gweddïo y disgynodd Ysbryd yr Arglwydd arno, ac y traddododd ei brophwydoliaeth nodedig am lwyr ddinystr y gelynion, yr hon a gyflawnwyd dranoeth i’r llythyren; canys trodd y gwahanol genhedloedd cynghreiriol hyny i ddyfetha y naill y llall — yr hyn a wnaethant mor lwyr, fel na adawyd un o honynt, heb i Iehosaphat a’i wŷr ergydio saeth na diweinio cledd yn eu herbyn. Aeth y weddi i’r nefoedd, a daeth â’i hatteb yn ol yn uniongyrchol; a’r dydd nesaf, cyflawnwyd dymuniadau y weddi a geiriau y brophwydoliaeth mewn modd mor hynod ac arswydlawn ag a barai i ofn Duw Israel gerdded drwy’r holl deyrnasoedd cylchynol. Yr oedd dynion yr Ysgrythyr, druain disyml! yn credu yn nerth ac effeithioldeb gweddi: ni ddaeth erioed i’w meddyliau hwy i appwyntio cynghor o ddoethion i wneyd ymchwiliad i’r cwestiwn, er penderfynu a oedd y fath beth a gwrandawiad gweddi yn bod, neu yn bossibl i fod, ai nad oedd! Na: aent hwy â’u holl achosion a’u trallodion, heb ammheu dim, i’w taenu ger bron Duw mewn gweddi. Credent, nid yn unig y gallai Duw wrandaw gweddi, ond ei fod yn gwneyd — yn gwrandaw eu gweddïau hwy hefyd. Ac y mae adseiniau eu mawl a’u diolchgarwch iddo am hyny yn cerdded trwy glustiau yr holl genhedlaethau byth. Ond y mae doethion a gwyddonwyr yn ein dyddiau ni yn gwybod amgen pethau, dybygid; ac ysgydwant eu penau dysgedig mewn dirmyg ar hygoeledd yr hen weddïwyr hyny, a phawb cyffelyb iddynt! [Gwel nodiadau ar Salm xlvii., yr hon a briodolir i’r un amgylchiad.]

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Salmau 83