Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnodau Beiblaidd Poblogaidd o Salmau 85

Yr Arglwydd rydd ddaioni, A’n daear rydd ei ffrwyth, A’i phobloedd a’i moliannant Ef, o bob iaith a llwyth. NODIADAU. I ryw un o feibion Corah, ar neu wedi y dychweliad o gaethiwed Babilon, y priodolir y salm hon. Yr oedd cyflwr y dychweledigion cyntaf o’r caethiwed yn Ierusalem a gwlad Iudah yn isel a thrallodus iawn am dymmor, fel y gwelir yn y disgrifiadau a roddir o hono gan Ezra a Nehemiah. Gweddïa y mab Corah hwn am amser gwell — am fod i’r Arglwydd mewn trugaredd symmud yr arwyddion o’i anfoddlonrwydd oedd etto yn aros ar ei bobl, a’u hadferu i’w ffafr ac i’w breintiau, gan goffhau ei raslonrwydd i’w bobl yn eu hadfyd, mewn amserau a aethant heibio, fel ei ddadl dros ei weddi. Ymbilia ar Dduw am iddo eu troi hwy ato ei hun, ac iddo yntau droi atynt hwythau, i’w bywhau a’u bendithio. Dychwelasid lliaws mawr o honynt o wlad eu caethiwed i’w gwlad eu hun; ond yr oeddynt er hyny yn isel a thrallodus iawn eu hamgylchiadau, dan waradwydd a dirmyg y cenhedloedd o’u hamgylch. Wedi offrwm ei weddi, disgwylia y gweddïwr am attebiad iddi: “Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw,” medd ef; ac y mae yn hyderu y bydd yn atteb grasol a chysurlawn — “canys efe a draetha heddwch i’w bobl ac i’w saint.” Felly y gwnaeth efe i’w bobl a’i saint bob amser pan alwent arno, ac ni thyr efe ar ei arfer i ninnau, ei bobl ef, yn awr. “Ond na throant at ynfydrwydd:” — at ynfydrwydd delwau ac eilunaddoliaeth. Troi at yr ynfydrwydd hwnw yn benaf dim a ddygasai aflwydd a thrueni y caethiwed yn Babilon arnynt; ac os tröent at yr ynfydrwydd hwnw drachefn, ar ol eu dychweliad i’w gwlad, ni allent ddisgwyl am i Dduw draethu heddwch iddynt, ond y byddai eu hamryfusedd diweddaf yn waeth na’r cyntaf. Yna y mae yr oracl yn atteb, “Diau fod ei iechyd ef yn agos,” & c. — fod eu Duw yn eu cofio, ac ar ymweled â’i bobl, i’w bendithio a’u llwyddo. Cysurwyd hwynt â llawer o addewidion mawrion a gwerthfawr yn y tymmor hwnw drwy eneuau y prophwydi Haggai a Zechariah; ac adnewyddwyd yr addewid o’r Messiah iddynt drachefn a thrachefn gan y prophwydi hyny. Yr ydoedd yr iechyd — yr Iachawdwr a’r iachawdwriaeth fawr drwyddo ef — yn awr yn dyfod yn bethau agos; ac yna, ynddo ef y byddai trugaredd a gwirionedd yn ymgyfarfod, a chyfiawnder a heddwch yn ymgusanu — gwirionedd yn tarddu o’r ddaear, a chyfiawnder yn edrych i lawr o’r nefoedd — yr Arglwydd yn rhoddi daioni, a’r ddaear yn rhoi ei ffrwyth. Amseroedd adferiad pob peth wedi gwawrio.