Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnodau Beiblaidd Poblogaidd o Salmau 87

Y cantorion a’r cerddorion Fyddant yno ’n moli ’n llon: Holl ffynnonau fy niddanwch Darddant yn y Seion hon. NODIADAU. Cân fer, fywiog, a melus odiaeth i feibion Corah ydyw hon. Y mae yn dechreu yn ddisymmwth. Gellid tybio fod y Salmydd yn eistedd wrtho ei hun ar Fynydd yr Olewydd, gogyfer âg Ierusalem, pan y cyfansoddodd hi; edrychai ar gadernid a gogoniant y ddinas fel prif ddinas y llywodraeth, ond yn benaf fel dinas Duw, lle yr oedd ei lys, y deml, ac yntau ei hun yn preswylio ynddi, a throdd ei fyfyrdodau wrth edrych arni yn gân iddi. Wedi crybwyll am gadernid ei seiliau, anercha hi yn y pennill nesaf gydag edmygedd gwresog — “Gogoneddus bethau a ddywedir am danat ti, O ddinas Duw!” Am ei chadernid, a’i gogoniant, a’i llwyddiant, yn addewidion Duw yn ei air iddi, yr oedd dinas Ierusalem yn bortread o eglwys Dduw dan yr Hen Destament a’r Newydd hefyd; ac fel y cyfryw bortread y dywedir y gogoneddus bethau am dani, ac yn hyn yr oedd yn rhagori mewn gogoniant ar holl ddinasoedd y cenhedloedd, Rahab (yr Aipht), a Babilon, Tyrus, ac Ethiopia. Tybygir fod y crybwyllion a wneir yma am y gwledydd a’r dinasoedd hyny yn brophwydoliaeth am alwedigaeth y Cenhedloedd i’r Ierusalem newydd — yr eglwys efengylaidd. Gosodir y geiriau “Cofiaf Rahab a Babilon,” adn. 4, yn ngenau Duw ei hun, yn sicrhâd i’w Seion y buasai i’r dinasoedd hyny a fuasent bob amser yn elyniaethus iddi gael eu cyfnewid a’u dwyn i’w charu ac ymuno â hi; ac y byddai ei dinasyddion hi yn aml iawn ac yn enwog iawn. “Y gŵr a’r gŵr:” — Gwŷr cedyrn ac enwog yn holl elfenau gwir enwogrwydd. A sicrheir yn mhellach iddi bob cyflawnder o holl elfenau a defnyddiau cysuron tymmhorol ac ysbrydol. “Fy holl ffynnonau sydd ynot ti:” — yn Seion. Felly dywed Duw wrthi fod holl ffynnonau ei ras a’i iachawdwriaeth ef ynddi; sef, gweinidogaeth ac ordinhadau yr efengyl. Felly dywed y Salmydd, a phob enaid crediniol, fod holl ffynnonau ei obaith, ei ddiddanwch, a’i gysuron yntau ynddi. Pa mor isel a dirmygus bynag yw eglwys Dduw yn ngolwg y byd, y mae hi yn werthfawr ac yn ogoneddus yn ei olwg ef; ac nid oes dim arall ar y ddaear ond y hi felly yn ei olwg ef. Ac efe a fyn ei gwneyd hi yn ogoneddus ar y ddaear yn ngolwg yr holl genhedloedd, ac yn ngolwg ei holl lywodraeth hefyd, pan lwyr gyflawnir yr holl ogoneddus bethau a lefarodd efe am dani, ac a addawodd efe iddi yn ei air:— “Pan ddêl efe i’w ogoneddu yn ei saint, ac i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu yn y dydd hwnw.”