1
Matthaw 18:20
Y Cyfammod Newydd - Y Pedair Efengyl 1818 (John Jones)
Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt.
Cymharu
Archwiliwch Matthaw 18:20
2
Matthaw 18:19
Trachefn meddaf i chwi, Os cydsynia dau o honoch ar y ddaear, am beth bynnag a’r a ofynant, efe a wneir iddynt gan fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.
Archwiliwch Matthaw 18:19
3
Matthaw 18:2-3
A’r Iesu a alwodd atto blentyn, ac a’i gosododd yn eu canol hwynt; Ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Oddi eithr eich cyfnewid chwi, a’ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi i mewn i’r lywodraeth nefoedd.
Archwiliwch Matthaw 18:2-3
4
Matthaw 18:4
Pwy bynnag gan hynny a’i gostyngo ei hunan fel y plentyn hwn, hwnnw yw’r mwyaf yn yr lywodraeth nefoedd.
Archwiliwch Matthaw 18:4
5
Matthaw 18:5
A phwy bynnag a dderbynio gyfryw yn fy enw i, a’m derbyn i.
Archwiliwch Matthaw 18:5
6
Matthaw 18:18
Yn wir meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a rwymoch ar y ddaear, byddant wedi eu rhwyrno yn y nef: a pha bethau bynnag a ryddhaoch ar y ddaear, a fyddant wedi eu rhyddhâu yn y nef.
Archwiliwch Matthaw 18:18
7
Matthaw 18:35
Ac felly y gwna fy Nhad nefol i chwithau, oni faddeuwch o’ch calonnau bob un i’w frawd eu camweddau.
Archwiliwch Matthaw 18:35
8
Matthaw 18:6
A plwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn a gredant ynof fi, da fyddai iddo pe crogid maen melin assyn am ei ŵyddf, a’i foddi yn eigion y môr.
Archwiliwch Matthaw 18:6
9
Matthaw 18:12
Beth dybygwch chwi? O bydd gan ddyn gant o ddefaid, a myned o un o honynt ar ddisberod; oni âd efe yr amyn un cant, a myned i’r mynyddoedd, a cheisio yr hon a aeth ar ddisberod?
Archwiliwch Matthaw 18:12
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos