1
1 Cronicl 16:11
beibl.net 2015, 2024
Dewch at yr ARGLWYDD, profwch ei nerth; ceisiwch ei gwmni bob amser.
Cymharu
Archwiliwch 1 Cronicl 16:11
2
1 Cronicl 16:34
Diolchwch i’r ARGLWYDD! Mae e mor dda aton ni; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.
Archwiliwch 1 Cronicl 16:34
3
1 Cronicl 16:8
Diolchwch i’r ARGLWYDD, a galw ar ei enw! Dwedwch wrth bawb beth mae wedi’i wneud.
Archwiliwch 1 Cronicl 16:8
4
1 Cronicl 16:10
Broliwch ei enw sanctaidd! Boed i bawb sy’n ceisio’r ARGLWYDD ddathlu.
Archwiliwch 1 Cronicl 16:10
5
1 Cronicl 16:12
Cofiwch y pethau rhyfeddol a wnaeth – ei wyrthiau, a’r cwbl mae wedi ei ddyfarnu!
Archwiliwch 1 Cronicl 16:12
6
1 Cronicl 16:9
Canwch iddo, a defnyddio cerddoriaeth i’w foli! Dwedwch am y pethau rhyfeddol mae’n eu gwneud.
Archwiliwch 1 Cronicl 16:9
7
1 Cronicl 16:25
Mae’r ARGLWYDD yn Dduw mawr, ac yn haeddu ei foli! Mae’n haeddu ei barchu fwy na’r ‘duwiau’ eraill i gyd.
Archwiliwch 1 Cronicl 16:25
8
1 Cronicl 16:29
Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da! Dewch o’i flaen i gyflwyno rhodd iddo! Plygwch i addoli’r ARGLWYDD sydd mor hardd yn ei gysegr!
Archwiliwch 1 Cronicl 16:29
9
1 Cronicl 16:27
Mae ei ysblander a’i urddas yn amlwg; mae cryfder a llawenydd yn ei bresenoldeb.
Archwiliwch 1 Cronicl 16:27
10
1 Cronicl 16:23
Y ddaear gyfan, canwch i’r ARGLWYDD! a dweud bob dydd sut mae e’n achub.
Archwiliwch 1 Cronicl 16:23
11
1 Cronicl 16:24
Dwedwch wrth y cenhedloedd mor wych ydy e; wrth yr holl bobloedd am y pethau rhyfeddol mae’n eu gwneud.
Archwiliwch 1 Cronicl 16:24
12
1 Cronicl 16:22
“Peidiwch cyffwrdd fy mhobl sbesial i; peidiwch gwneud niwed i’m proffwydi.”
Archwiliwch 1 Cronicl 16:22
13
1 Cronicl 16:26
Eilunod diwerth ydy duwiau’r holl bobloedd, ond yr ARGLWYDD wnaeth greu’r nefoedd!
Archwiliwch 1 Cronicl 16:26
14
1 Cronicl 16:15
Cofiwch ei ymrwymiad bob amser, a’i addewid am fil o genedlaethau
Archwiliwch 1 Cronicl 16:15
15
1 Cronicl 16:31
Boed i’r nefoedd a’r ddaear ddathlu’n llawen! Dwedwch ymysg y cenhedloedd, “Yr ARGLWYDD sy’n teyrnasu!”
Archwiliwch 1 Cronicl 16:31
16
1 Cronicl 16:36
Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel, o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb! A dyma’r bobl i gyd yn dweud, “Amen! Haleliwia!”
Archwiliwch 1 Cronicl 16:36
17
1 Cronicl 16:28
Dewch bobl y cenhedloedd! Cyhoeddwch! Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy’r ARGLWYDD!
Archwiliwch 1 Cronicl 16:28
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos