1
1 Corinthiaid 1:27
beibl.net 2015, 2024
Pobl gyffredin oeddech chi. Ond chi wnaeth Duw eu dewis – y rhai ‘twp’, i godi cywilydd ar y rhai hynny sy’n meddwl eu bod nhw’n glyfar! Dewisodd Duw bobl gyffredin yng ngolwg y byd i godi cywilydd ar y pwysigion hynny sy’n dal grym.
Cymharu
Archwiliwch 1 Corinthiaid 1:27
2
1 Corinthiaid 1:18
Mae’r neges am y groes yn nonsens llwyr i’r bobl hynny sydd ar y ffordd i ddistryw. Ond i ni sy’n cael ein hachub, dyma’n union lle mae grym Duw i’w weld.
Archwiliwch 1 Corinthiaid 1:18
3
1 Corinthiaid 1:25
Mae ‘twpdra’ Duw yn fwy doeth na chlyfrwch pobl, a ‘gwendid’ Duw yn fwy pwerus na chryfder pobl.
Archwiliwch 1 Corinthiaid 1:25
4
1 Corinthiaid 1:9
Gallwch chi drystio Duw yn llwyr. Mae’n gwneud beth mae’n ei ddweud. Fe sydd wedi’ch galw chi i rannu bywyd gyda’i Fab, y Meseia Iesu ein Harglwydd ni.
Archwiliwch 1 Corinthiaid 1:9
5
1 Corinthiaid 1:10
Frodyr a chwiorydd, dw i’n apelio atoch chi ar ran ein Harglwydd Iesu Grist – stopiwch ffraeo. Dw i eisiau i chi ddangos undod go iawn, yn lle bod wedi’ch rhannu’n ‘ni’ a ‘nhw’.
Archwiliwch 1 Corinthiaid 1:10
6
1 Corinthiaid 1:20
Ble mae’r bobl glyfar? Ble mae athrawon y Gyfraith? Ble mae’r dadleuwyr i gyd? Mae Duw wedi gwneud i ddoethineb dynol edrych yn dwp!
Archwiliwch 1 Corinthiaid 1:20
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos