Wedyn gwnaeth yr un peth ar ôl swper pan gymerodd y cwpan a dweud, “Mae’r cwpan yma’n cynrychioli’r ymrwymiad newydd mae Duw’n ei wneud, wedi’i selio gyda fy ngwaed i. Gwnewch hyn i gofio amdana i bob tro y byddwch yn yfed ohono.” Bob tro byddwch chi’n bwyta’r bara ac yn yfed o’r cwpan, byddwch yn cyhoeddi ystyr marwolaeth yr Arglwydd nes iddo ddod yn ôl eto.