1
1 Samuel 15:22
beibl.net 2015, 2024
Yna dyma Samuel yn dweud, “Beth sy’n rhoi mwya o bleser i’r ARGLWYDD? Aberth ac offrwm i’w losgi, neu wneud beth mae e’n ddweud? Mae gwrando yn well nag aberth; mae talu sylw yn well na braster hyrddod.
Cymharu
Archwiliwch 1 Samuel 15:22
2
1 Samuel 15:23
Mae gwrthryfela yn bechod, fel dablo mewn dewiniaeth, ac mae anufudd-dod mor ddrwg ac addoli eilunod. Am dy fod wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD mae e wedi dy wrthod di fel brenin.”
Archwiliwch 1 Samuel 15:23
3
1 Samuel 15:29
Dydy Un Godidog Israel, ddim yn dweud celwydd nac yn newid ei feddwl. Dydy e ddim fel person dynol sy’n newid ei feddwl o hyd.”
Archwiliwch 1 Samuel 15:29
4
1 Samuel 15:11
“Dw i’n sori mod i wedi gwneud Saul yn frenin. Mae e wedi troi cefn arna i, a dydy e ddim yn gwneud beth dw i’n ddweud.” Roedd Samuel wedi ypsetio’n lân, a bu’n crefu ar yr ARGLWYDD am y peth drwy’r nos.
Archwiliwch 1 Samuel 15:11
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos