Dwedodd wrtho, “Dos yn ôl i gysgu. Pan fydd e’n dy alw di eto, ateb fel yma: ‘Siarada ARGLWYDD, mae dy was yn gwrando.’”
Felly dyma Samuel yn mynd yn ôl i orwedd i lawr. A dyma’r ARGLWYDD yn dod ato eto, a galw arno fel o’r blaen, “Samuel! Samuel!”. A dyma Samuel yn ateb, “Siarada, mae dy was yn gwrando.”