A Duw sy’n gwneud y cwbl – mae wedi gwneud heddwch rhyngon ni ag e’i hun drwy beth wnaeth y Meseia. Ac mae wedi rhoi’r gwaith i ni o rannu’r neges gyda phobl eraill. Ydy, mae Duw wedi sicrhau heddwch rhyngddo fe’i hun â’r byd drwy beth wnaeth y Meseia. Dydy e ddim yn dal methiant pobl yn eu herbyn nhw! Ac mae wedi rhoi i ni’r gwaith o ddweud am hyn wrth bobl.