1
2 Brenhinoedd 5:1
beibl.net 2015, 2024
Roedd yna ddyn pwysig yn Syria o’r enw Naaman, pennaeth y fyddin, ac roedd gan ei feistr, y brenin, barch mawr ato. Drwyddo fe roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi llwyddiant milwrol i wlad Syria. Ond yna cafodd y milwr dewr yma ei daro’n wael gan glefyd heintus ar y croen.
Cymharu
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 5:1
2
2 Brenhinoedd 5:10
A dyma Eliseus yn anfon neges ato. “Dos i ymolchi saith gwaith yn afon Iorddonen, a bydd dy groen di’n gwella a byddi’n lân eto.”
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 5:10
3
2 Brenhinoedd 5:14
Felly dyma fe’n mynd ac ymdrochi saith gwaith yn afon Iorddonen fel roedd y proffwyd wedi dweud. A dyma’i groen yn dod yn lân fel croen plentyn bach.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 5:14
4
2 Brenhinoedd 5:11
Ond dyma Naaman yn gwylltio a mynd i ffwrdd. “Rôn i’n disgwyl iddo ddod allan ata i, a sefyll a gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw, symud ei law dros y man lle mae’r afiechyd, a’m gwella i.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 5:11
5
2 Brenhinoedd 5:13
Ond dyma’i weision yn mynd ato, a dweud, “Syr, petai’r proffwyd wedi gofyn i ti wneud rhywbeth anodd, oni fyddet wedi’i wneud o? Y cwbl mae e’n ei ofyn ydy, ‘Dos i ymolchi, a byddi’n lân.’”
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 5:13
6
2 Brenhinoedd 5:3
A dyma hi’n dweud wrth ei meistres, “Dyna biti na fyddai’r meistr yn gallu mynd i weld y proffwyd sydd yn Samaria. Gallai e ei wella.”
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 5:3
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos