1
Pregethwr 5:2
beibl.net 2015, 2024
Paid bod yn rhy barod dy dafod, ac ar ormod o frys i ddweud dy farn wrth Dduw. Mae Duw yn y nefoedd a tithau ar y ddaear. Dylet ti bwyso a mesur dy eiriau.
Cymharu
Archwiliwch Pregethwr 5:2
2
Pregethwr 5:19
Ac os ydy Duw wedi rhoi cyfoeth ac eiddo iddo, a’r gallu i’w mwynhau, derbyn ei wobr a chael pleser yn y cwbl mae’n ei wneud – rhodd gan Dduw ydy’r pethau yma i gyd.
Archwiliwch Pregethwr 5:19
3
Pregethwr 5:10
“Dydy rhywun sydd ag obsesiwn am arian byth yn fodlon fod ganddo ddigon; na’r un sy’n caru cyfoeth yn hapus gyda’i enillion.” Dydy e’n gwneud dim sens!
Archwiliwch Pregethwr 5:10
4
Pregethwr 5:1
Gwylia beth rwyt ti’n ei wneud wrth fynd i addoli Duw. Dos yno i wrando, ddim i gyflwyno offrwm ffyliaid, oherwydd dydy’r rheiny ddim yn gwybod eu bod nhw’n gwneud rhywbeth o’i le.
Archwiliwch Pregethwr 5:1
5
Pregethwr 5:4
Pan wyt ti’n gwneud adduned i Dduw, paid oedi cyn ei chyflawni. Dydy Duw ddim yn cael ei blesio gan ffyliaid. Gwna beth rwyt ti wedi addo’i wneud.
Archwiliwch Pregethwr 5:4
6
Pregethwr 5:5
Mae’n well peidio gwneud adduned yn y lle cyntaf na gwneud un ac wedyn peidio’i chyflawni!
Archwiliwch Pregethwr 5:5
7
Pregethwr 5:12
“Mae gorffwys yn felys i weithiwr cyffredin, faint bynnag sydd ganddo i’w fwyta, ond mae’r ffaith fod gan y cyfoethog fwy na digon yn ei rwystro rhag cysgu’n dawel.”
Archwiliwch Pregethwr 5:12
8
Pregethwr 5:15
Mae plentyn yn cael ei eni i’r byd heb ddim, ac mae’n gadael y byd heb ddim. Does neb yn gallu mynd a’i gyfoeth gydag e.
Archwiliwch Pregethwr 5:15
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos