Roedd arweinwyr yr Iddewon yn dal ati i adeiladu, ac yn llwyddiannus iawn, tra oedd Haggai a Sechareia fab Ido yn dal ati i broffwydo. A dyma nhw’n gorffen y gwaith adeiladu roedd Duw Israel wedi’i orchymyn, a hefyd Cyrus, Dareius ac Artaxerxes, brenhinoedd Persia.