Doedd gen i mo’r wyneb i ofyn i’r brenin roi milwyr a marchogion i’n hamddiffyn ni ar y ffordd. Wedi’r cwbl, roedden ni wedi dweud wrth y brenin, “Mae Duw’n gofalu am bawb sy’n ei geisio, ond mae’n ddig iawn hefo pawb sy’n troi cefn arno.” Felly buon ni’n ymprydio a gweddïo’n daer ar Dduw am hyn, a dyma fe’n ein hateb ni.